Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Aber Afon Dyfrdwy

Beth yw INNS?

Mae rhywogaethau estron ymledol (INNS) yn blanhigion, anifeiliaid neu bathogenau sydd wedi cael eu cyflwyno gan weithredoedd dynol i ardal y tu allan i’w cynefin brodorol. Gallant achosi llawer o broblemau a all fod yn amgylcheddol, cymdeithasol a / neu economaidd.

Brodorol vs estron

Mae rhywogaethau brodorol wedi addasu i fyw mewn ardal benodol dros amser. Rhywogaethau estron, ar y llaw arall, yw’r rhai sydd wedi cael eu cyflwyno i amgylchedd newydd, drwy weithgareddau dynol yn aml, ac sy’n gallu goroesi a ffynnu yn eu lleoliad newydd.

Ydi pob rhywogaeth estron yn cael ei hystyried yn INNS?

Gall rhai rhywogaethau estron fyw ochr yn ochr â rhywogaethau brodorol heb achosi unrhyw ddifrod na niwed. Maen nhw’n cael eu hystyried yn ymledol pan fydd eu presenoldeb yn cael effaith negyddol o ganlyniad ar rywogaeth arall, yr amgylchedd, neu’r economi.

Darllen mwy

© Joe Ironside

Beth yw’r broblem gydag INNS?

Effaith ar rywogaethau brodorol

Gall INNS effeithio ar rywogaethau brodorol drwy fygu, bwyta a / neu gael y gorau arnynt (e.e. am fwyd a gofod). Gallant newid y cynefinoedd maen nhw’n byw ynddyn nhw (e.e., newid gwely’r môr ac effeithio ar yr ecosystem). Gall INNS gyflwyno clefydau, plâu a pharasitiaid hefyd nad yw rhywogaethau brodorol wedi dod ar eu traws o’r blaen a gallant arwain at ddinistrio poblogaethau.

Canlyniadau eraill

Amcangyfrifir bod INNS yn costio £4 biliwn y flwyddyn i economi Prydain. Yn y sector morol mae’r costau hyn o ganlyniad i ddifrod i strwythurau ar y môr, colli rhywogaethau o bwysigrwydd masnachol ar gyfer pysgodfeydd, rheoli a chyfyngu ar INNS, a chostau i’w tynnu nhw oddi ar gyrff llongau a gwneud gwaith atgyweirio.

Darllen mwy – Asesiad wedi’i ddiweddaru o gostau uniongyrchol rhywogaethau anfrodorol ymledol i’r Deyrnas Unedig

*Tynnwyd y llun hwn ym Mae Abertawe ac nid ar Aber Afon Dyfrdwy © Chloe Powell-Jennings

Sut mae INNS yn cyrraedd Afon Dyfrdwy?

Llwybrau

Yr enw ar y dull a’r gweithredoedd sy’n cael eu defnyddio i symud INNS yw “llwybrau”. Mae’r llwybrau yn y Ddyfrdwy yn cynnwys gweithrediadau masnachol, gweithgareddau hamdden (fel hwylio a chaiacio), a chynaeafu pysgod cregyn.

Yn benodol, mae posib symud INNS drwy gyfrwng y canlynol:

  • Byddant yn glynu wrth gyrff cychod
  • Cael eu tynnu i mewn i nodweddion cadw dŵr mewn cychod (e.e., tanciau dŵr budr ac mewn dŵr balast)
  • Clymu yng nghanol offer cychod neu bysgota neu gael eu dal ynddo.

© NRW

Enghreifftiau o rywogaethau

Un INNS sydd i’w weld yn eang yn y Ddyfrdwy yw’r cranc manegog Tsieineaidd, cranc tyllu sy’n frodorol i ddwyrain Asia. Rydym yn credu iddo gael ei gyflwyno yma drwy ddŵr balast mewn llongau yn teithio rhwng gwledydd. Bydd y cranc manegog Tsieineaidd yn ysglyfaethu ar rai o’n rhywogaethau brodorol ni, yn ogystal â chael y gorau arnyn nhw wrth chwilio am fwyd, a gall achosi difrod i lannau afonydd drwy dyllu.

© Chloe Powell Jennings

Ble gallaf i ddysgu mwy?…

Cau llwybrau

“Mae atal yn well na gwella”

Er ei bod yn bwysig cael gwared ar rywogaethau estron ymledol a’u rheoli ar ôl iddynt gyrraedd, bioddiogelwch yw’r weithred o osod rhwystrau, neu ymddygiadau, sy’n torri ar draws y llwybrau, fel nad yw INNS yn gallu teithio i ardaloedd newydd yn y lle cyntaf.

Ond, sut?

Dyma enghreifftiau o bethau y gallem eu gwneud i gau llwybrau:

  • Arferion glanhau da, glanhau ein cychod a’n hoffer cyn gadael neu deithio i lefydd newydd i sicrhau nad ydym yn cario unrhyw beth gyda ni.
  • Diheintio a sychu offer masnachol fel rhan o drefn arferol.
  • Archwilio a phrofi dŵr balast llongau gan ddefnyddio eDNA (moleciwlau DNA sy’n arnofio yn y dŵr) i ganfod presenoldeb unrhyw rywogaethau ymledol.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn ewch i: Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr – Bioddiogelwch a Llwybrau:

Darllen mwy

 

 

Beth yw’r cynllun gweithredu bioddiogelwch?

Mae’r cynllun bioddiogelwch ar gyfer y Ddyfrdwy yn ffordd o roi arweiniad i bawb sy’n defnyddio’r amgylchedd yma i gadw at arferion ac ymddygiadau gorau i leihau’r risg o gyflwyno neu ledaenu INNS drwy wahanol lwybrau.

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England yn cydnabod pwysigrwydd bioddiogelwch wrth ddiogelu amgylchedd morol a bioamrywiaeth frodorol Aber Afon Dyfrdwy rhag ymlediad ac effaith rhywogaethau estron ymledol. Mewn partneriaeth â’r holl ddefnyddwyr, rydym wedi ymrwymo i edrych ar gamau gweithredu diriaethol, realistig i leihau’r bygythiad hwn.

Mae’r camau gweithredu hyn yn cael eu cyflwyno yn y ‘Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch ar gyfer ACA Aber Afon Dyfrdwy’. Mae sawl gradd i’r rhain, gan eu gwneud yn gyraeddadwy i bob defnyddiwr, ond mae ganddynt y potensial i gyfrannu at warchod Aber Afon Dyfrdwy a’r buddion rydym ni i gyd yn eu cael ohono.

Mae’r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch hwn yn rhoi disgrifiadau i ddechrau o pam a sut gellid gweithredu a gwella bioddiogelwch yn Aber Afon Dyfrdwy ar draws yr holl grwpiau o randdeiliaid sy’n bresennol.”

Cysylltiad â Chynllun Gweithredu Bioddiogelwch Aber Afon Dyfrdwy

Felly, beth allaf i ei wneud?

Hafan | iRecord ar gyfer gliniadur

Ar gyfer android: Ap iRecord – Apiau ar Google Play

Ar gyfer iphone: Ap iRecord ar yr App Store

Os ydych chi yn:

Pysgotwr masnachol  cliciwch yma

Gweithrediadau masnachol ar y dŵr  cliciwch yma

Unigolion  cliciwch yma

Defnyddiwr hamdden cliciwch yma

Darllen pellach

Camau Gweithredu fesul Sector cliciwch yma

Biosecurity To-Do-List Tracker (Word) cliciwch yma

Biosecurity To-Do-List Tracker (Excel) cliciwch yma

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.