Partneriaid Caru Aber Dyfrdwy

Partneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol 

https://catchmentbasedapproach.org/get-involved/tidal-dee/

Ffurfiwyd Partneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol mewn ymateb i alwad Defra yn 2013 am westeion i hwyluso cydweithio lleol rhwng rhanddeiliaid, ac i nodi camau gweithredu blaenoriaeth ar gyfer yr amgylchedd dŵr.

Nod Partneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol yw cynnal, gwella a diogelu Aber Afon Dyfrdwy drwy integreiddio’r dull seiliedig ar ddalgylch o hyrwyddo ei ddefnydd cynaliadwy, gwella ei werth o ran bywyd gwyllt a darparu hamdden a mynediad i natur.

O waith Partneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol daeth prosiect Caru Aber Dyfrdwy. Mae Caru Aber Dyfrdwy yn brosiect partneriaeth ar draws ffiniau sy’n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Caer, ar ran Partneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol, a’i gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’n dod ag amrywiaeth o sefydliadau lleol at ei gilydd sydd â diddordeb yn Aber Afon Dyfrdwy.

Nod Caru Aber Dyfrdwy, a wnaed yn bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yw ysbrydoli cymunedau arfordirol ar Benrhyn Cilgwri ac yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych ynghylch eu treftadaeth naturiol i greu cymuned newydd o stiwardiaeth i warchod a diogelu arwyddocâd bywyd gwyllt Aber Afon Dyfrdwy yn effeithiol.

Ymddiriedolaeth Natur Sir Caer

https://www.cheshirewildlifetrust.org.uk/

Ymddiriedolaeth Natur Sir Caer yw’r sefydliad cynnal ar gyfer prosiect Caru Aber Dyfrdwy. Dyma’r brif elusen bywyd gwyllt annibynnol yn rhanbarth Sir Caer, sy’n gweithio ers dros 60 mlynedd i ddod â bywyd gwyllt lleol yn ôl ar draws Sir Caer, Halton, Stockport, Tameside, Trafford, Warrington a Phenrhyn Cilgwri.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Caer yn gweithio ar lawr gwlad ochr yn ochr â ffermwyr lleol, cynghorau, ASau, ysgolion, busnesau, cymunedau ac unigolion, gan rymuso pawb i gysylltu â’u bywyd gwyllt lleol, ei warchod a gweithredu drosto.

Yn ogystal â gweithio o fewn cymunedau ac arwain Caru Aber Dyfrdwy, mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Caer yn berchen ar ac yn rheoli sawl hafan arfordirol i fywyd gwyllt ac mae ganddi grŵp gwirfoddol lleol o’r enw Wirral Wildlife. Ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Natur Cumbria ac Ymddiriedolaeth Natur Sir Caerhirfryn, Manceinion a Gogledd Glannau Merswy, mae’n rhan o Foroedd Byw Gogledd Orllewin Lloegr. Mae’r grŵp hwn o Ymddiriedolaethau Natur yn cydweithio i ddod â bywyd gwyllt yn ôl i ran Lloegr o Fôr Iwerddon. Fel rhan o fudiad yr Ymddiriedolaethau Natur, maent hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaethau ledled y DU ar gyfer ein harfordir a’n moroedd. Drwy’r partneriaethau hyn, mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Caer yn gweithredu yn lleol i ymgyrchu’n frwd dros well gwarchodaeth gyfreithiol i’n hamgylchedd morol lleol. Mae hefyd yn sicrhau bod byd natur yn cael y fargen orau gyda phrosiectau datblygu morol gwirioneddol gynaliadwy.

Aber y Ddyfrdwy yr RSPB

https://www.rspb.org.uk/reserves-and-events/reserves-a-z/dee-estuary-burton-mere-wetlands/

Gwlybdiroedd Cors Burton yr RSPB yw calon gwarchodfa natur Aber y Ddyfrdwy yr RSPB, gyda chyfleusterau i ymwelwyr yn sicrhau bod bywyd gwyllt yr aber ar gael yn hwylus i bobl o bob oedran, diddordeb a gallu. Mae gwarchodfa’r RSPB yn ymestyn dros hanner yr aber gan gynnwys y ddwy ochr i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ac mae’n gartref i boblogaethau rhyngwladol bwysig o lawer o rywogaethau o adar sydd dan fygythiad.

DECG

Grŵp Cadwraeth Aber Afon Dyfrdwy

Mae Grŵp Cadwraeth Aber Afon Dyfrdwy (DECG) yn Elusen Gofrestredig a’i hamcan yw gwarchod Aber Afon Dyfrdwy a’i fflora a’i ffawna am eu gwerth cynhenid ac er budd y cyhoedd. Corff ymbarél yw DECG sy’n dod â grŵp o 28 o sefydliadau ac wyth corff arsylwi sy’n ymwneud â rheolaeth gynaliadwy Aber Afon Dyfrdwy at ei gilydd.

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yw’r brif elusen yng Ngogledd Cymru sy’n ymroddedig i warchod pob cynefin a rhywogaeth. Rydym yn gweithio ar draws pob un o chwe sir y rhanbarth.

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am Warchodfa Natur Big Pool Wood yn ardal prosiect Aber Afon Dyfrdwy. Dyma wely cyrs bendigedig a safle coetir sy’n llawn blodau gwyllt, canu adar a chyfleusterau sy’n galluogi ymwelwyr i ddod yn nes at fywyd gwyllt. Gallwch ddarganfod mwy am ein gwaith dros fywyd gwyllt morol ar ein gwefan ni!

Mae staff Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i brosiect Caru Aber Dyfrdwy.

Cyfroeth Naturiol Cymru

https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/?lang=en

Ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn 2013 ac mae’n gorff cynghori a rheoleiddio i Lywodraeth Cymru, diwydiant, y sector gwirfoddol a’r cyhoedd ehangach ar faterion yn ymwneud â’r amgylchedd ac adnoddau naturiol.

Mae staff CNC yn cefnogi gwaith prosiect Caeu Aber Dyfrdwy drwy gyngor a chefnogaeth i bartneriaid.

Natural England

https://www.gov.uk/government/organisations/natural-england/about

Natural England yw’r corff cynghori i Lywodraeth y DU ar yr amgylchedd naturiol.

Mae Natural England wedi cefnogi prosiect Caru Aber Dyfrdwy gyda chyllid, cyngor a chefnogaeth i bartneriaid.

Environment Agency

https://www.gov.uk/government/organisations/environment-agency/about

Sefydlwyd Asiantaeth yr Amgylchedd yn 1996 ac mae’n gyfrifol am warchod yr amgylchedd naturiol a datblygu cynaliadwy.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cefnogi gwaith ar draws Aber Afon Dyfrdwy ac yn cynghori ac yn cefnogi partneriaid.

Cyngor Sir y Fflint

https://www.flintshire.gov.uk/en/Home.aspx

Mae Cyngor Sir y Fflint yn un o 4 cyngor sy’n ffurfio cymunedau Aber Afon Dyfrdwy. Mae’n gyngor sir yng Nghymru.

Mae staff o Gyngor Sir y Fflint yn rhoi cefnogaeth ymarferol a thechnegol i brosiect Caru Aber Dyfrdwy.

Cyngor Sir Ddinbych

https://www.denbighshire.gov.uk/en/home.aspx

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn un o 4 cyngor sy’n ffurfio cymunedau Aber Afon Dyfrdwy. Mae’n gyngor sir yng Nghymru.

Mae staff o Gyngor Sir Ddinbych yn rhoi cefnogaeth ymarferol a thechnegol i brosiect Caru Aber Dyfrdwy.

Cyngor Gorllewin Sir Caer a Sir Caer

https://www.cheshirewestandchester.gov.uk/home.aspx

Mae Cyngor Gorllewin Caer a Chaer yn un o 4 cyngor sy’n ffurfio cymunedau Aber Afon Dyfrdwy. Mae’n gyngor bwrdeistref yn Lloegr.

Mae staff o Gyngor Gorllewin Sir Caer a Sir Caer yn rhoi cefnogaeth ymarferol a thechnegol i brosiect Caru Aber Dyfrdwy.

Cyngor Penrhyn Cilgwri

https://www.wirral.gov.uk/

Mae Cyngor Penrhyn Cilgwri yn un o 4 cyngor sy’n ffurfio cymunedau Aber Afon Dyfrdwy. Mae’n gyngor bwrdeistref yn Lloegr.

Mae staff o Gyngor Penrhyn Cilgwri yn rhoi cefnogaeth ymarferol a thechnegol i brosiect Caru Aber Dyfrdwy.

 

CYSYLLTWCH Â NI

Latest Newsletters

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.