Cynigiodd Rhaglen Hyfforddi Athrawon Caru Aber Dyfrdwy gyfle i athrawon o bob cwr o’r aber ddysgu am yr hyn sydd gan yr aber i’w gynnig i’w myfyrwyr a meithrin hyder wrth siarad am y byd naturiol gyda’u myfyrwyr.
Yn 2022 daeth 16 o athrawon o ysgolion yng Nghymru a Lloegr at ei gilydd i ddysgu am yr aber. Drwy Ddyfarniad John Muir, cymerodd yr athrawon ran mewn rhaglen ddysgu strwythuredig i feithrin capasiti gan ddefnyddio cyfryngau digidol a sesiynau ymarferol. Fe fuon nhw’n dysgu am fywyd gwyllt a dŵr yr aber a’r ffordd orau o gyfathrebu’r wybodaeth yma i’w myfyrwyr. Cyflwynwyd y rhaglen gan staff prosiect Caru Aber Dyfrdwy ochr yn ochr â sefydliadau partner.
Yn 2024, fe gynhaliodd staff prosiect Caru Aber Dyfrdwy, mewn cydweithrediad â staff Addysg o Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer, sesiynau hyfforddi Ysgol Draeth i athrawon ym Mharc Gwledig Penrhyn Cilgwri yn Thurstaston. Mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer yn cynnig cefnogaeth i athrawon ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau. Os hoffech chi gael gwybod mwy, gallwch anfon e-bost atyn nhw ar education@cheshirewt.org.uk
Am fwy o ysbrydoliaeth, gall unrhyw un ymuno â Rhwydwaith Gwyllt Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer – grŵp Facebook bywiog sy’n cael ei ategu gan gylchlythyr misol gan y tîm yn Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer.
Mae Dyfarniad John Muir yn rhaglen a gynlluniwyd i fynd â phobl ar siwrnai ddarganfod drwy fyd natur a gall unrhyw un ymuno naill ai’n unigol neu fel grŵp. Gall athrawon a’u myfyrwyr gymryd rhan fel ymarfer dosbarth ac mae’n hawdd iawn eu hymgorffori mewn nifer o wahanol bynciau fel Gwyddoniaeth, Saesneg a Chelf.
Roedd John Muir (1838 – 1914) yn un o sylfaenwyr y mudiad cadwraeth ac mae mwy na 387,500 o bobl wedi ennill Dyfarniad John Muir ers ei lansio ym 1997.

Mae Dyfarniad John Muir yn cynnwys
y pedair her ganlynol:
The students will receive a workbook to complete and a certificate upon completion of the award. It is hoped that the program will show the students the opportunities open to them for further study and future careers. The Dee Estuary offers the perfect place to undertake this award with plenty of wild places to explore.
For more information, visit their website:
www.johnmuiraward.org/achieving-the-award