Defnyddiwch y map i gynllunio eich taith i Aber Afon Dyfrdwy.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n cwmpasu arfordir cyfan Cymru.
Mae gwefan Llwybr Arfordir Cymru yn adnodd cynhwysfawr iawn a dylai fod yn brif ffynhonnell wybodaeth i chi wrth i chi gynllunio eich taith o amgylch arfordir Cymru.
Mae’r rhan o amgylch Aber Afon Dyfrdwy yn cynnwys golygfeydd godidog a hanes hynod ddiddorol
Mae’r Burton Marsh Greenway, llwybr Asffalt i gyd bron, yn mynd â chi o Shotton, drwy Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, lle bydd angen i chi fod yn ymwybodol o draffig ar eich llwybr, hyd at Neston, gyda dargyfeiriad posibl i Burton ar y ffordd. Yn Neston gallwch ymuno â’r Wirral Way.
https://www.sustrans.org.uk/find-a-route-on-the-national-cycle-network/burton-marsh-greenway


Mae’r Wirral Way, sy’n 12 milltir o hyd, wedi cael ei greu gan ddefnyddio hen lein reilffordd a oedd yn arfer bod yn rhan o lwybr rheilffordd cylch o amgylch Penrhyn Cilgwri.
Mae’n cael ei gynnal a’i gadw gan Gyngor Penrhyn Cilgwri ac mae’n llwybr llydan, gwastad sydd hefyd yn cynnwys llwybr i geffylau ac mae’n rhan o Lwybr 56 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Gan rychwantu canol Penrhyn Cilgwri ac yn dechrau ger Gorsaf Reilffordd West Kirby ac yn gorffen yng Ngorsaf Reilffordd Hooton, bydd y llwybr hwn yn mynd â chi drwy fannau gwyrdd amrywiol, ar hyd clogwyni arfordirol, dros draethau tywodlyd a thrwy Barc Gwledig Penrhyn Cilgwri.
https://www.wirral.gov.uk/parking-roads-and-travel/public-rights-way/public-rights-way-wirral
Mae Llwybr Arfordir Lloegr Brenin Charles III wedi’i gwblhau gyda’r darn o Benbedw i ffin Cymru yn dathlu ei agoriad ar ddechrau 2025.
Mae Natural England, gan weithio ochr yn ochr â Chynghorau Penrhyn Cilgwri a Gorllewin Swydd Caer a Chaer, wedi gosod arwyddion yn eu lle i dywys ymwelwyr ar hyd y rhan o Lwybr Arfordir Lloegr Brenin Charles III ar ochr Lloegr i Aber Afon Dyfrdwy.
Ewch i’r gwefannau hyn i gael gwybod mwy:
