Beth nesaf?

April 2025 Dee Estuary header

Yn y tri chylchlythyr nesaf, fe fyddwn yn tynnu sylw at yr holl weithgareddau ledled Aber Afon Dyfrdwy a’r ardaloedd cyfagos y gallwch chi barhau i gymryd rhan ynddyn nhw pan fydd Caru Aber Dyfrdwy yn dod i ben ddiwedd mis Mehefin 2025. Byddwn hefyd yn rhannu’r cynnwys yma ar gyfryngau cymdeithasol felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn ein sianeli ni am ragor o wybodaeth a dolenni.

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r cylchlythyr llawn iawn yma!

Tîm Caru Aber Dyfrdwy

April 2025 Dee Estuary Volunteering

Gwirfoddoli

Mae cymaint o gyfleoedd gwirfoddoli ar draws Aber Afon Dyfrdwy, a dydi pob un ohonyn nhw ddim yn cynnwys baeddu eich dwylo! Edrychwch ar rai opsiynau isod a chysylltu â ni os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi’n hoffi sgwrs, eisiau helpu i addysgu’r genhedlaeth nesaf ac yn caru bod yn yr awyr agored, mae’r sefydliadau a’r grwpiau yma i gyd yn cynnig y cyfleoedd hyn:

  • Yr RSPB
    Mae’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Gwarchod Adar (RSPB) bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr angerddol. Cymerwch ran mewn prosiectau monitro rhywogaethau, creu cynefinoedd, ymgysylltu ac addysg ar y ddwy ochr i Aber Afon Dyfrdwy. Hefyd mae gan yr RSPB grwpiau lleol sydd bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd, a’r ddau agosaf yw Grŵp Lleol Caer a Grŵp Lleol Penrhyn Cilgwri.

Tudalen Gwirfoddoli’r RSPB | Grŵp Lleol Caer yr RSPB |  Grŵp Lleol Penrhyn Cilgwri yr RSPB

  • Cyfeillion Ynys Hilbre 
    Ymunwch â chymuned angerddol o wirfoddolwyr sy’n ymroddedig i warchod ac arddangos harddwch unigryw Ynys Hilbre. Ymunwch â Digwyddiad Gwylio Morloi a Gwylio Adar ar Ddyddiau Agored yr Ynys a dysgu am y morloi a’r adar sy’n galw Aber Dyfrdwy yn gartref. Ewch i dudalen Facebook Cyfeillion Ynys Hilbre i weld sut gallwch chi gymryd rhan.
    Facebook Cyfeillion Ynys Hilbre | Gwefan Cyfeillion Ynys Hilbre
  • Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer
    Mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer bob amser yn chwilio am bobl angerddol i gynorthwyo eu staff mewn digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ac ar draws Sir Caer gyfan. Ewch i’w tudalen gwirfoddoli am fwy o wybodaeth.
    Gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer

Os mai cloddio’n gorfforol am bethau, torchi eich llewys ac elwa o gampfa byd natur sy’n mynd â’ch bryd chi, edrychwch ar rai o’r grwpiau yma isod.

Mae’r holl grwpiau yma’n gweithio’n ddiflino (gyda chacennau yn danwydd) i gadw ein hardal ni mewn cyflwr perffaith; nid dim ond er budd y cynefin a’r bywyd gwyllt sy’n ei alw’n gartref, ond i bobl ei fwynhau hefyd!

Os ydych chi’n hoffi codi allan ar Aber Afon Dyfrdwy, dyma rai o’r grwpiau a’r sefydliadau i’w dilyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau a’r gweithgareddau:

Ymddiriedolaeth y Ddyfrdwy yng Nghymru
Rhwydwaith Amgylcheddol Penrhyn Cilgwri
Grŵp Lleol Caer yr RSPB a Grŵp Lleol Penrhyn Cilgwri yr RSPB
Cefn Gwlad ac Arfordir Sir y FflintParc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas a Parc Gwepre

Healthy Rivers are essential

Morglawdd Llanwol Merswy: Beth sydd yn y fantol i fyd natur a’r hinsawdd?

Mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer ac Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caerhirfryn wedi uno i ymgyrchu yn erbyn Morglawdd arfaethedig Merswy. Mae Aberoedd Merswy a Dyfrdwy wedi’u cysylltu’n agos iawn a bydd yr hyn sy’n digwydd ar afon Merswy yn effeithio ar afon Dyfrdwy, felly rydyn ni’n cynnwys eu gwaith yng nghylchlythyr y mis yma gan fod ganddyn nhw bethau cyffrous ar y gweill i chi gymryd rhan ynddyn nhw. Edrychwch ar wefannau Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer ac Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caerhirfryn am fwy o wybodaeth.

Gweminar Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer – Morglawdd Llanwol Merswy: Y Risgiau

Ar ddydd Mercher 7fed Mai, mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer yn cynnal gweminar yn edrych ar beth sydd yn y fantol gyda morglawdd llanwol arfaethedig Merswy.

Ychydig iawn o fanylion sydd wedi’u darparu am y morglawdd ond mae cynnig tebyg ar gyfer Afon Hafren yn taflu goleuni ar y risgiau. Drwy edrych ar astudiaethau gwyddonol a chanfyddiadau diweddar comisiwn Llanwol Hafren, byddwn yn cynnig gwybodaeth am beth yw’r goblygiadau i bobl, byd natur a’r hinsawdd.

Bydd y weminar yn ymchwilio i sut mae morgloddiau llanwol yn gweithio, yr effeithiau ar gynefinoedd arfordirol sensitif, newidiadau i risg llifogydd a’r goblygiadau hinsawdd ehangach. Byddwn hefyd yn archwilio rhai o’r technolegau llanwol amgen sydd ar gael.

Archebu yma

April 2025 Mersey Tidal barrage

Lluniau diolch i: Joe Edwards – Filmage, Graham Skinner, American Humane Society, Ymddiriedolaeth y Ddyfrdwy yng Nghymru, CGL Record, Eni UK Ltd a Presthaven Sands.

SHARE ON
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.