Rydyn ni wedi bod yn brysur ar Aber Afon Dyfrdwy

Mae gan dîm Caru Aber Dyfrdwy ychydig o bethau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanyn nhw yn y cylchlythyr yma, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am grwpiau a gweithgareddau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw unwaith y daw ein prosiect ni i ben ym mis Mehefin 2025.

Diweddariad o Warchodfa Natur Red Rocks

Gyda’r cyfnod diweddar o dywydd sych ac anarferol o gynnes, mae Gwarchodfa Natur Red Rocks ar Benrhyn Cilgwri yn wynebu risgiau tân cynyddol, yn enwedig oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol fel taflu sbwriel a defnydd o farbeciws tafladwy. Mae’r gweithredoedd yma’n creu bygythiad difrifol i’n cynefinoedd twyni bregus ni. Os gwelwch chi dân neu unrhyw un yn ymddwyn yn anghyfrifol, ffoniwch Wasanaeth Tân ac Achub Glannau Merswy ar unwaith ar 999. Os nad yw’n argyfwng, gallwch roi gwybod am broblemau yn Red Rocks i’r heddlu lleol ar 101. Mae’r ardal hefyd yn cael ei goruchwylio gan geidwaid Cyngor Penrhyn Cilgwri, a gallwch roi gwybod am bryderon sydd ddim yn argyfyngau i Gyngor Penrhyn Cilgwri.

Er gwaethaf yr heriau o ran y tywydd, mae’r monitro ar fywyd gwyllt yn y warchodfa wedi dechrau’n gryf. Mae’r arolygon o löynnod byw yn dangos dechrau cadarn i’r tymor, gyda help y tywydd heulog. Yn y cyfamser, mae ein harolygon ni o lyffantod y twyni wedi cofnodi hyd at 41 o oedolion mewn un noson, newyddion gwych i rywogaeth brin. Fodd bynnag, gall y cyfnod sych parhaus effeithio ar eu llwyddiant magu, wrth i byllau ddechrau sychu’n gynharach nag arfer. Byddwn yn cadw llygad barcud ar y ddwy rywogaeth ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddarganfyddiadau newydd drwy gydol yr haf.

Ffilmio yng Ngwarchodfa Natur Red Rocks

Efallai eich bod chi wedi gweld e-bost a anfonwyd ychydig wythnosau yn ôl yn eich gwahodd chi i ddod i ymuno ag arolwg o rifft llyffant y twyni yn cael ei ffilmio yn Red Rocks. Roedd y ffilmio ar gyfer rhaglen newydd ar Channel 5 o’r enw Coastal Britain. Roedd Emily, ein Uwch Swyddog Prosiect, a Howard, Ymddiriedolwr o Amphibian and Reptile Conservation, yn tywys y cyflwynydd Helen Skelton o amgylch Red Rocks ac fe ymunodd hi â ni ar gyfer arolwg grifft yn ystod y dydd ac arolwg o’r llyffantod yn eu llawn dwf yn ystod y nos. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ddiwedd mis Mehefin / dechrau mis Gorffennaf felly cadwch lygad amdanom ni ar eich sgriniau teledu chi yn fuan iawn.

Grwpiau gwirfoddol lleol angen eich help chi!

Mae gennym ni fwy o grwpiau i ddweud wrthych chi amdanyn nhw sydd angen mwy o wirfoddolwyr. Rydyn ni’n ehangu ein hardal i gynnwys Aber Afon Merswy yn yr adran hon gan fod Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer yn gweithio yn yr ardal ac mae sefydliadau eraill sydd angen eich help chi yno hefyd.

Gwarchodfa Natur Cleaver Heath

Mae Gwarchodfa Natur Cleaver Heath yn rhan o SoDdGA ehangach Cymoedd Heswall a ddyfarnwyd er mwyn gwarchod cynefin rhostir yn yr iseldir. Mae’r warchodfa’n tua 3.3 hectar o ran maint ac, yn gyffredinol, mae’n cynnwys bloc canolog mawr o rostir iseldir wedi’i ffinio â choetir lled-naturiol.

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ymarferol ar y safle’n digwydd dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf ac mae’n cael ei wneud gan staff, contractwyr a thîm ymroddedig o wirfoddolwyr sydd â digwyddiadau rheolaidd i gynnal y warchodfa. Yn ystod yr hydref a’r gaeaf, mae’r gwaith yn bennaf yn cynnwys rheoli prysgwydd sy’n cynnwys tynnu rhywogaethau fel bedw o’r blociau rhostir sydd wedi hadu o’r coetir cyfagos. Heb gwblhau’r dasg yma, byddai’r rhostir yn y pen draw yn datblygu’n goetir a byddai rhywogaethau arbenigol y rhostir yn cael eu colli.

Rydyn ni’n defnyddio misoedd y gaeaf i fynd i’r afael â rhywogaethau estron ymledol fel rhododendron. Gan fod y warchodfa wedi’i hamgylchynu gan ardaloedd preswyl, mae’r planhigyn gardd cyffredin yma’n lledaenu’n gyflym ac yn trechu rhywogaethau brodorol yn fuan iawn. Mae staff a gwirfoddolwyr yn tynnu’r rhododendron yn rheolaidd i’w atal rhag sefydlu ar y safle.

Mae gennym ni gylch torri ar waith hefyd ar gyfer ein grug. Efallai bod hyn yn ymddangos yn groes i’r disgwyl wrth i ni warchod rhostir iseldir, ond drwy ddefnyddio’r cynllun torri rydyn ni’n sefydlu amrywiaeth ehangach o ran strwythur oedran y grug ar draws y safle, gan wella cyflwr hirdymor y rhostir. Mae’r ardaloedd sy’n cael eu torri’n cynnig tir noeth agored hefyd, cyn iddyn nhw ddechrau adfywio, sy’n wych ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau o infertebrata a madfallod.

Wrth i’r gwanwyn a’r haf gyrraedd, mae’r gwaith ymarferol ar y safle’n lleihau yn arw oherwydd tymor nythu’r adar, ond mae hwn yn gyfle i ni wneud gwaith seilwaith fel cynnal a chadw llwybrau ac atgyweirio ffensys. Rydyn ni hefyd yn mynd allan yn yr haf i fynd i’r afael â’r rhedyn; mae hwn yn blanhigyn yn isdyfiant coetir fel rheol, ond mae’n lledaenu’n gyflym, felly bob blwyddyn rydyn ni’n gweithio o amgylch ymyl y rhostir gan gael gwared ar redyn sy’n ymledu i’w atal rhag lledaenu ar draws y rhostir.

Os hoffech chi ymuno â Graham a’r tîm o wirfoddolwyr yn Cleaver Heath, cysylltwch â John McGaw am ragor o wybodaeth ac i archebu lle yn y dyddiau gwirfoddoli.

Ymddiriedolaeth Afonydd Merswy: Gwarcheidwaid Afonydd

Beth am i chi fod yn Warcheidwad Afon ar gyfer Whittle Brook!

Beth yw Gwarcheidwad Afon? Mae Gwarcheidwaid Afon yn cofnodi dangosyddion iechyd afonydd fel ffosffadau, nitradau ac infertebrata ychydig o weithiau’r flwyddyn.

Ble mae wedi’i leoli? Yn Great Sankey, ar hyd Whittle Brook. Bydd yr hyfforddiant yn para am un diwrnod ac yn cynnwys dysgu dan do ac yn yr awyr agored.

Sut bydd yn helpu fy afon i? Mae data ansawdd dŵr yn caniatáu i ni weithio gyda pherchnogion tir lleol i ddyfeisio cynlluniau i greu trawsnewidiadau cadarnhaol ar gyfer afonydd.

Ffaith Hwyliog: Bydd y data rydych chi’n eu casglu’n ymddangos ar fap cartograffydd cenedlaethol o bryfed afonydd. Gallwch weld sut mae eich data ansawdd dŵr yn cymharu â nentydd eraill yn y DU.

Anfonwch e-bost at Ryan Teare gan ddefnyddio “Whittle River Guardian” fel y cyfeirnod i gofrestru eich diddordeb.

Mae’r cyfle yma’n dod i ben ar ddydd Gwener 11 Gorffennaf 2025 neu pan fydd y 10 lle wedi’u llenwi. Byddd yr holl git yn cael ei ddarparu am ddim.

Morglawdd Llanwol Merswy:

Beth sydd yn y fantol i fyd natur a’r hinsawdd?

Mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer ac Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caerhirfryn wedi uno i ymgyrchu yn erbyn Morglawdd arfaethedig Merswy. Mae Aberoedd Merswy a Dyfrdwy wedi’u cysylltu’n agos iawn a bydd yr hyn sy’n digwydd ar afon Merswy yn effeithio ar afon Dyfrdwy, felly rydyn ni’n cynnwys eu gwaith yng nghylchlythyr y mis yma gan fod ganddyn nhw bethau cyffrous ar y gweill i chi gymryd rhan ynddyn nhw. Edrychwch ar wefannau Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer ac Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caerhirfryn am fwy o wybodaeth.

Academi Ymgyrchwyr Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer

Gall mudiadau cymunedol gael effaith enfawr ar fyd natur. Pan mae digon o bobl yn siarad am fater, mae arweinwyr lleol yn dechrau sylwi.

Bydd ein hacademi ymgyrchwyr ni yn y gwanwyn yn eich hyfforddi chi i adeiladu mudiad o amgylch mater sy’n bwysig i’ch cymuned. Os ydych chi eisiau hyrwyddo ailwylltio, gwarchod Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol neu helpu rhywogaethau sy’n ei chael hi’n anodd, bydd ein cwrs byr ni’n dangos i chi sut i greu ymgyrch ar lawr gwlad.

Bydd ein pum gweithdy ar-lein yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • Cynllunio ymgyrch ar lawr gwlad
  • Defnyddio deisebau i gasglu cefnogaeth
  • Creu mudiad ysbrydoledig
  • Cyfathrebu eich achos
  • Dylanwadu ar arweinwyr gwleidyddol.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal ar nosweithiau Mercher am 6:15pm o ddydd Mercher 18fed Mehefin 2025 ymlaen. Does dim angen unrhyw brofiad na gwybodaeth flaenorol, dim ond parodrwydd i ddysgu a hoffter o fyd natur!

Lluniau diolch i: Robin Rowe, Caru Aber Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer, Ymddiriedolaeth Afonydd Merswy, Rachel Bradshaw, Ymddiriedolaeth y Ddyfrdwy yng Nghymru, Eni UK Ltd a Presthaven Sands.

SHARE ON
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.