Rydyn ni’n anfon cylchlythyr bonws arbennig iawn atoch chi heddiw oherwydd roedden ni’n teimlo bod y newyddion am ein cefnforoedd ni’n rhy bwysig i beidio â’i rannu.
Efallai eich bod chi wedi gweld y ffilm newydd, Ocean with David Attenborough, sydd wedi bod yn cael ei dangos mewn sinemâu ledled y wlad dros yr wythnosau diwethaf ac mae wedi creu cynnwrf mawr. Mae datgeliad Syr David am yr arfer o dreillio gwely’r môr ar draws ein moroedd ni wedi synnu’r cyhoedd ac wedi ysgogi Llywodraeth y DU i weithredu, ond mwy am hynny yn nes ymlaen.
Fe ryddhawyd y ffilm ychydig wythnosau cyn Cynhadledd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig yn Nice, Ffrainc lle mae arweinwyr y byd a chadwraethwyr wedi dod at ei gilydd i bennu targedau uchelgeisiol ar gyfer gwarchod ein hamgylchedd morol. Roedd yr Ymddiriedolaethau Natur yno i ymladd dros gynefinoedd a bywyd gwyllt morol y DU.
Mae’r momentwm morol yn cynyddu’n gyffrous! Rydyn ni’n reidio’r don yma yn sicr ac os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer a’r Ymddiriedolaethau Natur eraill yn ei wneud i warchod ein cefnforoedd ni, gallwch gofrestru yma i dderbyn cylchlythyr Wild Cheshire Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer.

Mae Ocean gan David Attenborough yn archwiliad caled, ond cadarnhaol yn y pen draw, o gefnforoedd y byd a’r hyn sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i’w dinistrio a’u hadfer nhw. Yn aml, mae ffilmiau a rhaglenni teledu Syr David yn gorffen gyda galwad i weithredu dros yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ein bywydau bob dydd i helpu i adfer byd natur. Fodd bynnag, mae’r ffilm yma’n wahanol. Mae wedi cael ei hanelu’n uniongyrchol at arweinwyr y byd a’u llywodraethau i wneud mwy i warchod ein hamgylchedd morol. Dangosodd y ffilm yr hyn all ddigwydd pan fydd llywodraethau a’u cymunedau’n dod at ei gilydd i achub ein moroedd ni.
Mae’r ffilm Ocean wedi cael ei dangos mewn sinemâu dros yr wythnosau diwethaf ac mae bellach ar gael ar Disney+, Hulu a National Geographic. Ers 8fed Mehefin (Diwrnod Cefnforoedd y Byd), mae sefydliadau nid-er-elw a sefydliadau cymunedol wedi gallu cynnal dangosiadau at ddibenion anfasnachol, heb godi arian, felly cadwch lygad am ddangosiadau yn eich ardal leol chi.

Ar ddydd Llun 9fed Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn lansio ymgynghoriad i wahardd treillio ar wely’r môr mewn 41 o’n Hardaloedd Morol Gwarchodedig oddi ar y lan. Mae’r ardaloedd yma wedi cael eu dynodi er mwyn gwarchod gwely’r môr. Mae gwahardd y gweithgarwch dinistriol yma’n gam mawr ymlaen OND rhaid i ni sicrhau bod y mesurau’n cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl ac ar draws y safle cyfan.
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi creu ffurflen ar-lein lle gallwch chi anfon e-bost at y Gweinidog, sef Emma Hardy. Fel y Gweinidog Dŵr a Llifogydd, hi sy’n gyfrifol am faterion morol domestig a rhyngwladol. Dangoswch eich bod yn cefnogi’r ymgynghoriad yma a’i hannog hi i roi gwaharddiad ar waith cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi’n teimlo’n angerddol am ddiogelu ein cynefinoedd morol ni, yn enwedig rhag Morglawdd Llanwol arfaethedig Merswy, mae gennym ni’r union beth i’ch helpu chi ar eich siwrnai i ddod yn ymgyrchydd dros fyd natur.
Bydd ein hacademi ymgyrchwyr ni yn yr haf yn eich hyfforddi chi i adeiladu mudiad o amgylch mater sy’n bwysig i’ch cymuned. Os ydych chi eisiau hyrwyddo ailwylltio, gwarchod Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol neu helpu rhywogaethau sy’n ei chael hi’n anodd, bydd ein cwrs byr ni’n dangos i chi sut i greu ymgyrch ar lawr gwlad.
Bydd ein pum gweithdy ar-lein ni’n rhoi sylw i’r canlynol:
Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal ar nosweithiau Mercher am 18:30 ac maen nhw wedi dechrau ers nos Fercher 18fed Mehefin. Mae’r sesiwn gyntaf ar gael fel recordiad dal i fyny, felly gallwch gofrestru ar gyfer gweddill y cwrs o hyd. Does dim angen unrhyw brofiad na gwybodaeth flaenorol, dim ond parodrwydd i ddysgu a hoffter o fyd natur.

Lluniau diolch i: Drone Factor Ltd, Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur, Yr Ymddiriedolaethau Natur, Mark Thomas, Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer, Carys McMillan, Rachel Bradshaw, Caru Aber Dyfrdwy.