Helo a chroeso i gylchlythyr olaf prosiect Caru Aber Dyfrdwy. Mae gennym ni rai diweddariadau terfynol i chi isod a neges ffarwel gan ein Rheolwr Prosiect. Gan dîm y prosiect a’n holl bartneriaid ni, hoffem ddiolch i chi i gyd am ddod ar y siwrnai yma gyda ni ac rydyn ni’n gobeithio gweithio gyda chymunedau a bywyd gwyllt Aber Afon Dyfrdwy eto yn y dyfodol.
Rydyn ni’n paratoi i gau ein sianeli cyfryngau cymdeithasol nawr bod y prosiect wedi dod i ben. Byddwn yn gwneud cyfres o bostiadau y mis yma gyda dolenni i ddilyn ein holl bartneriaid ni a fydd yn parhau i wneud gwaith gwych yn yr ardal. Y bwriad yw cau’r sianeli ddiwedd mis Gorffennaf 2025.
Bydd gwefan Caru Aber Dyfrdwy yn parhau i fod yn brif ffynhonnell wybodaeth i chi am Aber Afon Dyfrdwy. Bydd y ffurflen ‘cysylltu â ni’ yn parhau i gael ei defnyddio a bydd yn eich cyfeirio chi at Hannah Phillips, sy’n gyfrifol am Bartneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol, sydd wedi’i lleoli yn Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer.
Mae gwefan ddefnyddiol arall ar gael hefyd ar gyfer Partneriaethau Dalgylch Afon Dyfrdwy sy’n cael ei gweithredu gan Ymddiriedolaeth y Ddyfrdwy yng Nghymru. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych ar honno hefyd!
Byddai ein sefydliad cynnal ni, Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer, wrth eu bodd pe baech chi’n cael gwybod am eu gwaith nhw drwy gofrestru i dderbyn eu cylchlythyr wythnosol, Wild Cheshire. Gyda dau aber, Dyfrdwy a Merswy, ac arfordir helaeth, bydd Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer yn parhau â gwaith y prosiect am flynyddoedd i ddod.

Fe allwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth ddiogelu a gofalu am Aber Afon Dyfrdwy i’r dyfodol. Boed hynny drwy faeddu ein dwylo mewn sesiwn gadwraeth ymarferol, helpu Grŵp Cyfeillion i weithredu eu cyfryngau cymdeithasol neu godi arian a chynnal digwyddiadau i gefnogi cadwraeth gymunedol. Dyma rai grwpiau a sefydliadau fyddai’n falch o gael eich help a’ch cefnogaeth chi.
Parc gwledig 70 erw, wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru. Mae’r safle’n adnabyddus am ei goetiroedd, ei gronfeydd dŵr a’i dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog. Mae tîm anhygoel o wirfoddolwyr ymroddedig yma sy’n rhoi o’u hamser i amrywiaeth eang o dasgau.
Os oes gennych chi ychydig oriau i’w sbario, boed hynny’n wythnosol, yn fisol neu’n flynyddol ac eisiau cymryd rhan, edrychwch ar eu gwefan i gael gwybod mwy.
Archwilio’r awyr agored! Gwnewch fwy dros eich cymuned a byd natur drwy wirfoddoli rhywfaint o’ch amser!
Eisiau treulio’r diwrnod ar yr arfordir gyda chriw cyfeillgar o bobl yn gwneud rhywbeth anhygoel dros fyd natur?
Mae’r tîm sy’n gofalu am gynefin gwerthfawr y twyni tywod yn Nhalacre yn eich gwahodd chi i’w diwrnod rheolaidd ar y twyni tywod, ar ddydd Iau cyntaf y mis.
Archebwch eich lle yma: Cwninger Talacre gydag ENI a wardeniaid Tywod Presthaven
Ydych chi’n mwynhau ymweld ag Aber Afon Dyfrdwy i weld yr heidiau anhygoel o adar rhydio sy’n ymuno â ni bob blwyddyn ar gyfer yr hydref a’r gaeaf?
Fe allech chi gyfuno eich hoffter o’r aber gyda helpu Wardeniaid Gwirfoddol Aber Afon Dyfrdwy i sgwrsio â phobl am yr adar a pham eu bod nhw yma, beth allwn ni ei wneud i wneud eu harhosiad ychydig yn fwy diogel ac yn fwy pleserus a hefyd eu cyfrif!
Mae’r DEVW hefyd yn chwilio am help gyda phethau fel cyfryngau cymdeithasol a threfnu digwyddiadau felly os nad ydych chi’n or-hoff o adar ond eisiau helpu mewn meysydd eraill, cysylltwch â ni!
Os hoffech chi gael gwybod mwy am fod yn warden gwirfoddol yn West Kirby, cysylltwch â Matt Thomas a Cheidwaid Parc Gwledig Cilgwri ar wcp@wirral.gov.uk
Mae perl gudd ar ochr Cymru i’r aber, sef Naturiaethwyr y Ddyfrdwy. Mae’r grŵp aelodaeth yma’n gweithredu o safle sy’n swatio rhwng Cei Connah ac Oakenholt. Maen nhw bob amser yn chwilio am aelodau newydd ac yn cynnal llu o ddigwyddiadau o amgylch yr ardal i’w haelodau gymdeithasu a dysgu. Mae’r aelodaeth yn werth anhygoel am arian!
Dyma Ffioedd Blynyddol y Gymdeithas:
£14.00 Teulu*
£12.00 Teulu* (o leiaf un aelod dros 60 oed)
£12.00 Sengl (dan 60 oed)
£10.00 Sengl (dros 60 oed)
£3.50 Myfyriwr / Plentyn (dan 18 oed)
A blaendal allwedd £12.00
*Diffinnir Aelodaeth Deuluol fel: Dau oedolyn yn byw yn yr un cyfeiriad a’u plant hyd at ddeunaw oed.
Cysylltwch â nhw ar membership@deenats.org.uk os hoffech chi ymuno.
Mae Parc Gwepra yn 160 erw o ofod gwyrdd o gynefinoedd a daeareg amrywiol. Mae’r nodweddion yn cynnwys gerddi’r Hen Neuadd, Nant a Rhaeadr, erwau o lwybrau cerdded coetir hardd a Chastell Ewloe.
Os oes gennych chi amser i’w sbario ac eisiau rhoi help llaw a gweithio ochr yn ochr â cheidwaid y parc i gynnal a chadw’r safle, anfonwch e-bost atyn nhw ar
Wrth i ni ddod at ddiwedd Prosiect Caru Aber Dyfrdwy, mae’n amser da i ni adlewyrchu ar bopeth sydd wedi’i gyflawni a’i brofi dros y 6 blynedd diwethaf o’r cysyniad o’r prosiect i’w gwblhau. Mae’r tîm wedi meithrin perthnasoedd anhygoel gyda phartneriaid ac aelodau o gymuned Afon Dyfrdwy ac wedi gweld y rhain yn ffynnu rhwng unigolion a grwpiau hefyd.
Yn gyffredinol, mae’r prosiect wedi ymgysylltu â mwy na 175,000 o bobl drwy’r cyfryngau, digwyddiadau a gwirfoddoli. Mae hynny’n 175,000 o bobl sydd wedi dysgu pa mor arbennig yw’r aber!
Mae’r tîm wedi gweithio gyda 9 grŵp cymunedol gwahanol, 38 o athrawon, ac wedi darparu hyfforddiant i 120 o ddinesydd wyddonwyr. Mae hynny’n llawer o bobl sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r angerdd i wneud pethau anhygoel dros Aber Afon Dyfrdwy a’i bywyd gwyllt.
Gyda hynny mewn golwg, rydyn ni’n gobeithio eich bod chi wedi mwynhau clywed am yr holl sefydliadau a’r cyfleoedd gwych o amgylch Aber Afon Dyfrdwy dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Dydi hi byth yn rhy hwyr i chi gofrestru a chymryd rhan!
A dydi pawb ddim yn ffarwelio…
Bydd Partneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol, grŵp o sefydliadau cydweithredol, a greodd y prosiect CAD, yn parhau i gydweithio’n weithredol. Y tu ôl i’r llenni, mae’r grŵp yn datblygu syniadau a phrosiectau newydd a fydd yn adeiladu ar gyflawniadau prosiect CAD, gan barhau i warchod ac adfer Aber Afon Dyfrdwy ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.
Lluniau diolch i: Caru Aber Dyfrdwy, Rachel Bradshaw.