Bywydau Arfordirol: Arolygon Haf a Thripiau Aber

Drwy gydol misoedd cynhesach 2024, rhoddodd gwirfoddolwyr CAD eu hamser i arolygu llyffantod y twyni a glöynnod byw.

Cafwyd dechrau i’r tymor yn ôl ym mis Ebrill gydag arolygon ar lyffant y twyni gyda’r nos, gan wrando am y gwrywod yn galw yn y tywyllwch i lawr ar lan y môr Red Rocks. Y sŵn roedden ni’n gwrando amdano oedd sŵn cras / crawcian. Dyma ddolen gan yr Amffibian & Reptile Conservation o lyffant y twyni gwryw yn galw.

Fe barhaodd hyn wedyn ar ffurf arolygon yn ystod y dydd, gan chwilio am linynnau o rifft ac, yn ddiweddarach, penbyliaid a llyffantod bach.

Bu’n rhaid i ni roi’r gorau i’r arolygon yn gynharach nag y byddem wedi’i hoffi eleni oherwydd bod llyffantod bach yn ymddangos mewn clytiau gwlyb mewn gwely cyrs tal iawn, gan ei gwneud yn anodd eu gweld. Felly, roedd yn debygol y byddem yn gwasgu’r llyffantod bach pe baem yn dal ati i arolygu, felly fe wnaethon ni benderfyniad gwybodus i roi’r gorau i arolygu. Fodd bynnag, drwy gydol misoedd yr haf wrth gynnal arolygon a gwaith arall yn Red Rocks, fe welsom ni ambell lyffant y twyni ifanc yn ystod y dydd. Mae hyn yn rhoi gobaith i ni am boblogaeth gynyddol i lawr yng ngwarchodfa Red Rocks.

Fe ddechreuodd yr arolygon ar löynnod byw ym mis Mai gyda Dave Costello o’r Gymdeithas Cadwraeth Gloÿnnod Byw. Rhoddodd hyfforddiant manwl i ni i gyd ar lwybr yr arolwg a rhoddodd awgrymiadau adnabod arbenigol i ni hefyd. Wedyn fe barhaodd yr arolygon hyn yn wythnosol drwy gydol misoedd yr haf gyda rhai gwirfoddolwyr yn dewis cynnal eu harolygon annibynnol eu hunain hyd yn oed, y tu allan i’r amser arolygu oeddi wedi’i neilltuo gennym ni. Yn anffodus, doedd canlyniadau’r arolwg ddim yn wych eleni. Roedd niferoedd y glöynnod byw yn isel, sy’n dangos yr hyn rydyn ni eisoes yn ei wybod am bryfed peillio a phryfed sy’n cael anhawster gyda hafau cynyddol oer a gwlyb a’r heriau y mae hinsawdd sy’n newid yn eu creu.

Yn ogystal â hyn, rydyn ni hefyd wedi dod o hyd i amser i gynnal digwyddiadau Shoresearch ar y ddwy ochr i Aber Afon Dyfrdwy, gan gyfrannu at gofnodion data cenedlaethol ac annog dysgu am rai o’r creaduriaid llai y gallwn ni ddod o hyd iddyn nhw ar y traeth ac y gallem eu diystyru fel arall. Mae teithiau cerdded tywys wedi cael eu cynnal hefyd mewn partneriaeth â Chyngor Penrhyn Cilgwri ac Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer. Mae’r rhain wedi helpu llawer o bobl i fynd ar eu trip cyntaf i Ynys Hilbre, yn ogystal â galluogi pobl i brofi gwychder yr aber a’r bywyd gwyllt a’r cynefinoedd yn y fan yma sy’n galw’r SoDdGA yma’n gartref. I goroni’r cyfan, fe gawsom ni rai sesiynau lles ar ffurf Ioga awyr agored hyd yn oed, a gweithdy ymwybyddiaeth ofalgar yn edrych dros Aber Afon Dyfrdwy.

Dadansoddiad o’r niferoedd:

  • Profodd 72 o bobl yr aber drwy daith gerdded dywys
  • Dysgodd 139 o bobl am y creaduriaid sy’n byw ar lannau ein haber ni drwy Shoresearch
  • Symudodd 81 o bobl eu cyrff yn edrych dros yr Aber
  • Cynhaliwyd 28 o arolygon bywyd gwyllt

Caru fy Aber: arddangos Aber Afon Dyfrdwy

Mae’r prosiect wedi cyrraedd sawl carreg filltir fawr yn ystod 2024. Lansiwyd gwefan Aber Afon Dyfrdwy ym mis Ebrill eleni ac mae’n cael ei datblygu’n barhaus felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych arni’n rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Caru Aber Dyfrdwy a’i bartneriaid. Mae 3 arwydd newydd wedi’u gosod yn West Kirby fel rhan o’n partneriaeth ni gyda Chyngor Penrhyn Cilgwri, a lansiwyd ein Cynllun Busnes Dŵr Glân.

Drwy gydol y flwyddyn bu llawer o ddigwyddiadau yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, o ddaeareg i dreftadaeth. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys sgwrs gyda lluniau gan Jim Marshall ym mis Chwefror yn egluro sut mae Aber Afon Dyfrdwy wedi ffurfio o’r oes iâ ddiwethaf hyd heddiw. Nifer o ddigwyddiadau hanes a threftadaeth gan gynnwys Glo a Chocos yn Nyffryn Maes-glas ym mis Ebrill a Diwrnod Treftadaeth yn yr RSPB ym mis Medi.

Cymerodd ein hymgyrch Dŵr Glân gam mawr ymlaen gyda recriwtio ein Llysgenhadon Dŵr Glân a’r Cynllun Busnes Dŵr Glân. Mae’r cynllun yma’n dal i redeg felly os ydych chi’n adnabod busnes lleol yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych neu ar Benrhyn Cilgwri a hoffai gael gwybod mwy am leihau ei effaith ar yr amgylchedd dŵr lleol, cofiwch ei annog i gysylltu â ni.

Mae Operation Seabird a’n gwaith ni i leihau’r tarfu ar forloi ac adar rhydio ar yr aber wedi bod yn llwyddiannus iawn diolch i’n partneriaeth ni gyda Heddlu Glannau Merswy, British Divers Marine Life Rescue a Chyfeillion Ynys Hilbre. Rydyn ni wedi cynnal nifer o safleoedd stopio i gŵn lle rydyn ni wedi bod yn sgwrsio gyda phobl sy’n mynd â chŵn am dro am sut i gadw eu cŵn yn ddiogel wrth gerdded ar yr arfordir ac i fod yn ymwybodol o’r bywyd gwyllt sy’n galw’r safleoedd yma’n gartref.

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol 2024 gymaint ag yr ydyn ni wedi mwynhau ysgrifennu’r cynnwys a dangos pa mor anhygoel ydi Aber Afon Dyfrdwy ac, wrth gwrs, rydyn ni mor ddiolchgar i bob un ohonoch chi sydd wedi tanysgrifio i’n cylchlythyr ni ac yn ei ddarllen bob mis.

Un Aber

Mae ein partneriaeth ni wedi mynd o nerth i nerth eleni, gan ddangos o ddifrif yr hyn y mae posib ei gyflawni pan fyddwn ni’n gweithio gyda phawb sydd â nodau tebyg. Cynlluniwyd Prosiect Caru Aber Dyfrdwy i annog y meddylfryd hwnnw, i ddod â phawb at ei gilydd, boed yn broffesiynol, yn wybodus, neu ddim ond newydd ddechrau, i rannu ein hoffter ni o’r aber. Gyda’i rywogaethau anhygoel, cyfleoedd i diwnio i mewn i fyd natur a’r ffordd y gall wneud i bob un ohonom ni deimlo, mae’n werth ymuno gyda’n gilydd i’w warchod.

Wrth i Brosiect Caru Aber Dyfrdwy agosáu at ei derfyn yn 2025, byddwn yn edrych yn ôl ac yn dathlu pa mor bell rydyn ni wedi dod. Byddwn hefyd yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i wneud yn siŵr bod lle parhaol i’r canlyniadau cadarnhaol ac y byddant yn parhau i dyfu a datblygu. Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn tynnu sylw at gyfleoedd i wirfoddolwyr ddal ati i gefnogi’r cynefinoedd a’r bywyd gwyllt arbennig ar draws yr aber. Rydyn ni hefyd wedi datblygu llawer o’n digwyddiadau llwyddiannus gyda chefnogaeth ein sefydliadau partner, a fydd yn parhau i gynnal y rhain. Bydd popeth rydyn ni wedi’i ddysgu drwy gyflwyno’r prosiect yma’n cael ei rannu hefyd gyda’n sefydliadau partner a’n cydweithwyr ni, i helpu i adeiladu prosiectau cadwraeth cymunedol mwy a gwell yma a ledled y DU. Drwy gydol hyn i gyd, mae ein partneriaeth ni wedi dod o hyd i ffyrdd gwell o gyfathrebu, rhannu syniadau a datrys problemau gyda’n gilydd, a bydd yn parhau i wneud hynny.

Daliwch ati i ddarllen y cylchlythyr yma am y wybodaeth ddiweddaraf a chyfleoedd newydd i gymryd rhan, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynychu ein digwyddiad dathlu ni ar 8fed Mawrth lle gallwch gwrdd â llawer o’r bobl wych sydd wedi helpu’r prosiect ar hyd y ffordd!

Lluniau diolch i: Caru Aber Dyfrdwy.

SHARE ON
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.