
Fe fydd Caru Aber Dyfrdwy wedi mynychu, cydweithredu â, a chyflwyno 5 digwyddiad y mis yma gan ddangos bod mis Chwefror yn ddechrau da i’r hyn rydyn ni’n gobeithio fydd yn dymor llawn bwrlwm a llwyddiannus! Dyma grynodeb o beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud…

Mae Wirral Wildlife – grŵp lleol o wirfoddolwyr sy’n cefnogi ein partner cynnal Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer, yn cynnal sgyrsiau misol yn Thornton Hough. Ym mis Ionawr, eu siaradwr gwadd oedd David Parker, cadeirydd Grŵp Cadwraeth Aber Afon Dyfrdwy, sy’n un o 11 partner craidd prosiect Caru Aber Dyfrdwy.
Fe siaradodd David am yr hyn sy’n gwneud Aber Afon Dyfrdwy mor arbennig, gan gynnwys ei nifer o ddynodiadau cadwraeth a’r amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau mae’n eu cynnal.
Os hoffech chi fynychu sgyrsiau Wirral Wildlife, mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu tudalen Facebook neu anfonwch e-bost atyn nhw ar info@wirralwildlife.org.uk a gallwch hefyd ddod yn aelod o Wirral Wildlife ac ymuno â’u sesiynau gwirfoddoli, gan gynnwys ym Mharc Glöynnod Byw New Ferry a safleoedd eraill ar draws Penrhyn Cilgwri.

Ar ddydd Iau yr 8fed o Chwefror, croesawodd Caru Aber Dyfrdwy yr Athro Emeritws Jim Marshall i Ganolfan Gymunedol Hoole lle cyflwynodd sgwrs newydd sbon a luniodd yn arbennig ar ein cyfer ni, o’r enw “Siapio Aber Afon Dyfrdwy”.
Mae Jim wedi cynnal digwyddiadau i ni yn y gorffennol ar Draeth Thurstaston ac yng Ngwarchodfa Natur Red Rocks, ond fe roddodd y sgwrs dan do yma gyfle iddo ddefnyddio diagramau o’r radd flaenaf i esbonio sut a pham y ffurfiodd Aber Afon Dyfrdwy fel y gwnaeth a sut gallai’r aber ddatblygu yn y dyfodol.
Hefyd fe wnaeth Jim ein helpu ni i ddatblygu’r arwydd sydd bellach yn eistedd yn falch wrth ymyl y meini crwydr rhewlifol y tu allan i Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Penrhyn Cilgwri yn Thurstaston.
Hoffem ddiolch i Jim a’i wraig Lesley am bopeth maen nhw’n ei wneud ar gyfer prosiect Caru Aber Dyfrdwy.

Fe wnaethon ni ymuno â digwyddiad Gwylio Adar y Llanw Uchel Wardeniaid Gwirfoddol Aber Afon Dyfrdwy ar bromenâd Hoylake ochr yn ochr â’r RSPB a Cheidwaid Cyngor Penrhyn Cilgwri ar y 10fed o Chwefror.
Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda nifer fawr o adar rhydio yn bresennol, a ddenodd lawer o ddiddordeb gan bobl oedd yn mynd heibio. Roedd Wardeniaid Gwirfoddol Aber Afon Dyfrdwy (DEVW) yn hynod wybodus, gan rannu eu sgopau a’u sbienddrych a’i wneud yn fore pleserus iawn yn yr heulwen.
Fe wnaethon ni amcangyfrif bod tua 10,000 o adar rhydio yno, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n bibyddion yr aber gyda rhywfaint o bibyddion y mawn, pibyddion y tywod, pibyddion coesgoch, rhostogion cynffonfraith a’r cwtiad llwyd wedi’u gwasgaru yn eu plith. Crwydrodd pedair o wyddau duon ar draws y morfa heli a gwelwyd hebog tramor yn hedfan heibio.
Mae DEVW yn dal i recriwtio gwirfoddolwyr. Os ydi hyn yn rhywbeth y gallwch chi roi ychydig oriau o’ch amser i’w wneud unwaith y mis ac os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Matt Thomas, Ceidwad Arfordirol, ar WCP@wirral.gov.uk

Y mis yma cynhaliwyd dau ddigwyddiad Shoresearch. Roedd y cyntaf ar ochr Cymru i Afon Dyfrdwy yn Nhalacre ar y 12fed, a’r ail ar ochr Lloegr i Afon Dyfrdwy yn Thurstaston ar ddydd Iau yr 22ain.
Yn Nhalacre, fe gawsom ein cyfarch gan lanw annisgwyl o uchel a’n cyfyngu i’r twyni tywod am y 30 munud cyntaf. Yn y twyni, fe welson ni gelyn y môr a llaethlys y môr ynghyd ag un o breswylwyr enwog y twyni tywod, moresg. Unwaith roedden ni ar y traeth, roedd y llanw wedi rhoi llawer iawn o blisg wyau siarcod a morgathod i ni yn ogystal â wyau gwichiaid moch a llawer o gregyn. Fe gawson ni lawer o hwyl yn sgwrsio gyda phawb oedd yno ac yn helpu aelodau iau y grŵp i adnabod yr hyn roedden nhw wedi dod o hyd iddo.
Daeth 31 o bobl i Dalacre i gyd, a threulio ychydig oriau yn ymgysylltu ag eraill ar yr arfordir, cael hwyl a dysgu rhywbeth newydd. Diolch i bawb ddaeth i Dalacre ac i Kim, Matt a’r tîm yno am eu cefnogaeth a’u defnydd o’r cyfleusterau.
Y gobaith ydi ysbrydoli cymaint o bobl â phosibl i fynd allan ar eu harfordir lleol yn amlach. Mae gan Yr Ymddiriedolaethau Natur rai Canllawiau Adnabod gwych fedr eich helpu chi i fod yn arbenigwr ar y glannau!
Byddwn yn trefnu mwy o ddigwyddiadau Shoresearch yn y dyfodol, tua diwedd y gwanwyn / dechrau’r haf pan fydd y tywydd yn dechrau gwella. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth yn nes at yr amser.
Mae Emily, ein Swyddog Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd ni, yn cael mwy a mwy o wybodaeth ddiddorol gan ei gwirfoddolwyr Hanes a Threftadaeth Naturiol.
Edrychwch ar rai o’r uchafbwyntiau isod. Byddwn hefyd yn rhannu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol felly dilynwch ni am fwy o hanes a threftadaeth!


Mae Twnnel Milwr, sy’n rhedeg am tua 10 milltir o Gadole ger yr Wyddgrug i Fagillt, yn gwagio tua 23 miliwn o alwyni o ddŵr i Aber Afon Dyfrdwy bob dydd, a mwy na hynny hyd yn oed ar ôl glaw trwm.
Mewn gwirionedd mae tua 60 milltir o dwneli yn y strwythur cyfan a’u nod wrth eu sefydlu oedd ceisio lleihau’r llifogydd oedd yn rhwystro echdynnu plwm ar Fynydd Helygain.
Dechreuwyd y gwaith adeiladu yn 1897 ac roedd ganddo hanes brith a dadleuol a dweud y lleiaf gan iddo, ar un adeg, achosi i’r cyflenwad dŵr i ddiwydiannau Dyffryn Maes Glas redeg yn sych, ond, yn bwysicach fyth i rai, cafodd yr un effaith ar Ddyfroedd Sanctaidd Ffynnon Gwenffrewi.
Fe ddaeth cloddio am blwm i ben yn y 1970au ac nid yw’r Twnnel yn cael ei gynnal a’i gadw mwyach, er bod dŵr yn parhau i redeg drwyddo er gwaethaf sawl cwymp creigiau sydd wedi cyfyngu ar fynediad pobl sy’n crwydro ogofåu ac yn archwilio tyllau.
Am fwy o fanylion dilynwch y dolenni yma:
Clwyd Chwilfrydig: Twnnel Milwr
Twnnel Milwr – Subterranea Britannica
Erthygl yn y Liverpool Echo – Hidden underground tunnel network that stretches for 60 miles

Mae tri chwestiwn heb eu hateb am Gastell Ewlo sy’n sefyll, yr hyn sydd ar ôl ohono, ym Mharc Gwepra ger Cei Connah yn agos at Aber Afon Dyfrdwy.
Y cyntaf yw “Pryd cafodd ei adeiladu?”, yr ail yw “Pwy wnaeth ei adeiladu?” ac yn olaf, ac efallai’r mwyaf od, “Pam ei adeiladu yno?”
Ychydig iawn o dystiolaeth sydd wedi’i chofnodi am y castell ond y consensws ydi ei fod yn dyddio o ganol y 1200au. Mae hyn yn seiliedig ar rai o’r nodweddion pensaernïol a rhai cyfeiriadau mewn gwahaniaethau hanesyddol.
Mae rhai’n credu iddo gael ei adeiladu gan Llywelyn ap Gruffydd ond mae eraill yn awgrymu mai gwaith tywysogion cynharach Gwynedd ydyw.
Ond y cwestiwn mwyaf un ydi’r lleoliad. Byddai’r ardal ar y pryd wedi bod yn goediog iawn sy’n ei wneud yn llecyn anarferol i adeiladu castell. Mae cestyll i’w gweld yn fwy cyffredin ar dir uwch ac nid mewn pant wedi’i amgylchynu gan goed.
Sut bynnag y cafodd ei adeiladu, mae’r adfeilion yn gyrchfan ddiddorol i gerddwyr sy’n mwynhau’r amgylchedd heddychlon ym Mharc Gwepra ac mae wir yn werth ymweld ag o.
Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni yma:
Clwyd Chwilfrydig: Castell Ewlo
Lluniau diolch i: Caru Aber Dyfrdwy, Ellen P Designs, Ron Thomas, Emily Lake, Paul Steele – Bald Hiker, Robin Rowe.