Mai 2023

CWRDD Â’R FÔR-WENNOL FACH

Y Fôr-wennol Fach yw’r fôr-wennol leiaf sydd i’w gweld yn y DU. Mae tua 1,375 o barau yn ymweld â’n glannau ni i fagu bob blwyddyn a bydd tua 75% o’r rhain yn anelu at arfordir Lloegr.

Ar un adeg, roedd yr unig boblogaeth fagu yng Nghymru yng Ngronant yn Sir Ddinbych wrth aber Afon Dyfrdwy. Drwy waith caled ac ymroddiad staff a wardeiniaid yr RSPB ochr yn ochr â gwirfoddolwyr o grwpiau fel Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, mae’r boblogaeth wedi tyfu ac mae nifer y parau sy’n magu wedi mwy na threblu ers y 1980au.

Ers hynny, mae poblogaethau magu newydd wedi sefydlu yn y Parlwr Du a Bae Cinmel gyda ffensys yn cael eu codi bob blwyddyn i warchod yr adar sy’n magu, gan greu amgylcheddau diogel ar y traethau graeanog lle maen nhw’n nythu ac yn magu eu cywion ar y ddaear. Mae wardeiniaid ar y safle drwy gydol y tymor i fonitro’r adar ac i sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu yng Nghymru.

 

 

Dysgu mwy am Fôr-wenoliaid Bach

SYKES COTTAGES YN ÔL YNG NGWARCHODFA NATUR RED ROCKS

Ar y 4ydd o Fai, fe ymunodd grŵp o 8 o wirfoddolwyr brwd o dîm Syke’s Cottages, Caer â ni ar gyfer diwrnod gwaith yng Ngwarchodfa Natur Red Rocks ar Benrhyn Cilgwri.

Fe siaradodd ein Swyddog Cadwraeth a Gwirfoddoli ni, Matt, gyda’r grŵp am y broses o symud y twyni tywod y byddem yn ei gwneud. Nid creu amodau tebyg i anialwch yw nod symud y twyni tywod, ond annog prosesau deinamig sydd wedi’u hatal oherwydd tyfiant afreolus y llystyfiant a gorsefydlogi.

Y cynllun oedd cael gwared ar ddarnau mawr o laswelltau trwchus a thal iawn ar lethrau’r twyni tua’r môr i ffurfio mosäig o ddarnau tywodlyd gyda llystyfiant, er mwyn rhoi cyfle i rywogaethau fflora olynol cynnar sefydlu ac i’r tywod ddod yn fwy symudol. Mae hyn yn efelychu’r hyn fyddai’r rhywogaethau pori mawr a oedd yn crwydro ein harfordiroedd ni ar un adeg yn ei gyflawni. Mae cloddio tyllau bas yn y twyni hefyd yn creu cynefin cysgodol perffaith i lawer o’r infertebrata sy’n byw ar y twyni.

Fe aeth y tîm ati gyda matogau, cribiniau a rhawiau i glirio llystyfiant a chreu rhimyn o ddarnau o dywod noeth ar hyd rhan o’r llaciau twyni. Fe ddangosodd y gwirfoddolwyr frwdfrydedd ac egni mawr, gan greu’r gofod yn eithriadol gyflym. Yn fuan iawn roedden ni’n gweld pryfed tywod yn symud i mewn ac yn defnyddio’r ardaloedd tywodlyd wedi’u datgelu o’r newydd. Bydd y rhain yn darparu ffynhonnell fwyd bwysig i ymlusgiaid ac amffibiaid sy’n byw yn y twyni, gan gynnwys y llyffant y twyni sy’n cael ei fonitro ar y safle gan Matt a’i wirfoddolwyr gwyddoniaeth y dinesydd.

Y cam nesaf ar gyfer yr ardaloedd yma yw dechrau cael Celyn y Môr i sefydlu eto yn y llaciau twyni noeth. Mae Celyn y Môr yn ffynhonnell fwyd bwysig a llawn neithdar i löynnod byw ac infertebrata eraill sy’n bwydo ar neithdar. Cadwch lygad am ein cylchlythyr nesaf ni i glywed mwy am y gwaith yma!

 

Dysgu mwy am Gelyn y Môr

PROFI ANSAWDD DŴR

Mae ein gwirfoddolwyr gwyddoniaeth y dinesydd ni wedi ymuno â menter gwyddoniaeth y dinesydd i fonitro ansawdd dŵr ledled dalgylch Afon Dyfrdwy, o’r blaenddyfroedd uwchben y Bala allan i’r môr agored. Mae ein gwirfoddolwyr ni’n astudio’r nifer o nentydd ac arllwysfeydd bach sy’n llifo’n uniongyrchol i’r aber o fryniau Sir y Fflint ac o Benrhyn Cilgwri.

Mae profion misol ar gyfer tyrfedd a lefelau ffosffad yn cael eu huwchlwytho gan wirfoddolwyr i gronfa ddata sydd ar gael i’r cyhoedd sydd yng ngofal Ymddiriedolaeth y Ddyfrdwy yng Nghymru fel rhan o’r prosiect “Ni Ddylai Fod yn y Ddyfrdwy”. Mae’r data’n cael eu dadansoddi bob 6 mis. Mae posib targedu cyrsiau dŵr sydd â llygredd ar gyfer dadansoddiad pellach a phrofi cyrsiau dŵr glân yn llai aml, dim ond i wirio eu bod yn aros mewn cyflwr da.

Mae’r canlyniadau cychwynnol wedi dangos lefelau uwch o lygredd yn agos at ardaloedd trefol a diwydiannol, ond mae arnom ni angen mwy o ddata i greu darlun cadarnach o unrhyw broblemau. Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu gyda phartneriaid y prosiect, gan gynnwys y cwmnïau cyfleustodau a chyrff statudol fel Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, i gydweithio ar ddatrys problemau a gwneud ein dŵr ni’n iachach i bobl a bywyd gwyllt.

 

Mwy o wybodaeth

HANES A THREFTADAETH NATURIOL ABER AFON DYFRDWY

Mae Emily, ein Swyddog Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd ni, yn cael mwy a mwy o wybodaeth ddiddorol gan ei gwirfoddolwyr Hanes a Threftadaeth Naturiol.

Edrychwch ar rai o’r uchafbwyntiau isod. Byddwn hefyd yn rhannu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol felly dilynwch ni am fwy o hanes a threftadaeth!

 

Dilynwch ni ar Facebook

Castell Hen Blas

Wedi’u cuddio o olwg y cyhoedd mewn rhywfaint o dir fferm ar gyrion Bagillt a milltir neu ddwy o Afon Dyfrdwy mae olion castell a allai fod wedi chwarae rhan arwyddocaol yn Hanes Cymru.

Mae hanes manwl gywir y safle’n dal i ddod i’r golwg. Y ddamcaniaeth gyffredinol heddiw ydi mai Dinas Basi oedd yr enw gwreiddiol arno ac mai yno y bu farw’r Brenin Cenwulf o Fersia yn 821. Credir bod ei hanes dilynol wedi cynnwys llawer o Dywysogion Cymru, yn fwyaf nodedig, Owain Gwynedd, a oedd yn gyfrifol am ei ddinistrio yn 1166.

Er iddo gael ei ailadeiladu wedyn, fe aeth yn adfeilion yn y pen draw tua 1300. Mae awgrymiadau hefyd mai hwn oedd safle castell coll Dinas Basing.

 

Foel Nant

Wedi’i lleoli ar y llethrau glaswelltog rhwng Prestatyn a Gronant mae Gorsaf Delegraffiaeth Foel Nant, sydd wedi’i rhestru fel adeilad Gradd II. Cafodd ei hadeiladu yn 1841 gan Ymddiriedolwyr Dociau Lerpwl ac roedd yn un o gyfres o naw gorsaf gyfnewid semaffor ar hyd arfordir Gogledd Cymru a oedd yn caniatáu cynnal cyswllt â llongau.

Gan ei bod yn semaffor ac felly’n weledol, roedd y system yn dibynnu ar welededd da a gallai gael problemau gydag oedi gyda’r signalau. Erbyn 1860 roedd wedi cael ei newid i raddau helaeth am delegraffiaeth electronig, ond cafodd ei chadw tan 1879 fel cymorth wrth gefn.

Mae’r adeilad ei hun yn unllawr gyda tho llechi ac roedd lle ynddo ar gyfer yr offer a’i weithredwyr. Heddiw, nid yw’n cael ei ddefnyddio ac mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol amdano.

Lluniau diolch i: Adam Jones, Hannah Fox, Paul Steele – Bald Hiker.

SHARE ON
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.