
Yn ddiweddar, fe fynychodd ein Swyddog Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd ni, Emily, sgwrs ar-lein gan Josh Styles, sylfaenydd North West Rare Plant Initiative am Forfa Heli, sut mae’n sefydlu mewn ardal a sut mae’n datblygu dros amser. Isod mae erthygl fer i’w gweld am yr hyn ddysgodd Emily yn ystod y sgwrs.
Mae morfa heli yn gynefin neonaturiol sy’n golygu nad yw wedi newid llawer ers cyn yr amser y daeth pobl i fyw ynddo, sy’n ei wneud yn gynefin unigryw a gwerthfawr iawn. Ymhlith ei nifer o nodweddion defnyddiol mae ei allu i storio carbon. Fe astudiodd Prifysgol Fetropolitan Manceinion ardal wedi’i hadfer o forfa heli ac amcangyfrif bod gan y safle y gallu i ddal a storio 19 tunnell o garbon organig yr hectar y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i dynnu 32,900 o geir yn y DU oddi ar y ffordd am flwyddyn, dileu’r allyriadau nwyon tŷ gwydr o bweru 77,930 o gartrefi yn y DU am flwyddyn ac roedd y gyfradd storio carbon 18 gwaith yn uwch na’r gyfradd a ddefnyddir ar hyn o bryd i amcangyfrif potensial storio carbon morfa heli yn y DU. Dim ond un safle astudio oedd hwn, ond mae’n galonogol gweld manteision posibl morfa heli ar raddfa fawr. Amcangyfrifir bod y DU yn colli tua 100 hectar o gynefin morfa heli bob blwyddyn.
Mae gan y planhigion sy’n ffurfio morfa heli lawer o swyddogaethau, gan gynnwys hidlo dethol sy’n golygu amsugno dŵr croyw yn unig gan eithrio’r halen; ysgarthu halen drwy chwarennau arbennig; a suddlondeb lle mae’r planhigyn yn amsugno ac yn cadw dŵr yn ei ddail am gyfnodau hir. Mae’r amrywiaeth o fecanweithiau ar gyfer byw mewn amgylchedd mor llym yn golygu bod y planhigion yma hefyd yn cynnal ecosystem lawer ehangach o ficro-organebau ac anifeiliaid sy’n dod at ei gilydd i gyd i wneud morfa heli yr hyn ydyw heddiw.
Mae planhigion morfa heli yn helpu i ddal gwaddod sy’n cael ei gario i mewn ar y llanw. Mae hyn yn arwain at groniad tir ac felly’n cynorthwyo i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a chodiad yn lefel y môr drwy greu amddiffynfeydd naturiol rhag stormydd, sy’n gwarchod rhag llanw’r gwanwyn ac ymchwydd unrhyw storm sy’n dod i mewn.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am waith Josh, gallwch edrych ar ei wefan, North West Rare Plant Initiative, a’i ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am waith Josh, gallwch edrych ar ei wefan, North West Rare Plant Initiative

Fe gynlluniwyd prosiect Caru Aber Dyfrdwy i gysylltu’r cymunedau, y cynefinoedd a’r gwaith anhygoel sy’n digwydd o amgylch Aber Afon Dyfrdwy. Nid yw byd natur yn cydnabod ein ffiniau dynol ni ac felly dylem edrych ar weld a rheoli ecosystemau mewn ffordd fwy cyfannol na sy’n draddodiadol. Mae’r prosiect wedi dangos sut gall sefydliadau a chymunedau gydweithio i ailgysylltu â’r byd naturiol a’i warchod.
Gan edrych tua’r dyfodol rydyn ni eisiau gweld y gwaith yma’n parhau. Dyma pam rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i lansio Partneriaeth Arfordirol Aber Afon Dyfrdwy fel ffordd i bob rhanddeiliad (awdurdodau, busnesau, cymunedau) ddatblygu eu gwaith mewn cydweithrediad â’i gilydd i gryfhau ei effaith a sicrhau hirhoedledd.
Mae’r tîm wedi sicrhau cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf drwy gronfa Hyrwyddo Cydlynu Arfordirol (3Cs) Asiantaeth yr Amgylchedd i gynnal cyfres o weithdai rhanddeiliaid a chyflwyno prosiectau adfer natur peilot drwy’r bartneriaeth.
Mae hwn yn ddull o weithredu sydd wedi profi’n llwyddiannus mewn lleoliadau eraill o amgylch y DU, gan gynnwys Aberoedd Hafren a Solway Firth. Rydyn ni’n credu y bydd hyn yn ddechrau ar ddyfodol cadarnhaol, cyffrous a mwy unedig i Aber Afon Dyfrdwy.

Mae dalgylch afon yn adrodd hanes y siwrnai o darddiad y dŵr i’r môr agored. Bydd pob diferyn o law sy’n disgyn ar ein hynys ni’n cyrraedd ein nentydd, ein hafonydd a’n cronfeydd dŵr yn y pen draw, gan gyflenwi’r adnoddau dŵr sydd arnom ni eu hangen i redeg ein cartrefi, tyfu ein bwyd, a chefnogi ein diwydiannau. Mae’r adnoddau dŵr yma’n hanfodol hefyd i gefnogi’r fioamrywiaeth fywiog sydd i’w gweld ledled y DU.
Mae dalgylch afon yn ymestyn i’r pwynt pellaf lle bydd y dŵr yn teithio ac yn bwydo ymhellach i lawr yr afon. Bydd y llif dŵr yma’n cyrraedd ei benllanw wrth aber yr afon, gan fwydo dŵr croyw yn uniongyrchol i’n haberoedd ni yn aml. Dyma sut mae Aber Afon Dyfrdwy wedi’i strwythuro. Daw’r dŵr croyw sydd yn yr aber o Afon Dyfrdwy yn bennaf, fodd bynnag, mae llawer o lednentydd bach sydd hefyd yn bwydo dŵr croyw i’r afon a’r aber.
Drwy reoli ein hafonydd ni drwy ddull o weithredu sy’n seiliedig ar ddalgylch, gallwn sicrhau bod pob cam o’r broses yma, o’r tarddiad i’r môr, yn cael ei reoli’n ofalus i leihau’r risg o orddefnyddio ac i gynnal cyflwr yr amgylchedd naturiol. Mae mwy na 100 o bartneriaethau dalgylch unigol yn Lloegr ac ar draws ffin Cymru / Lloegr. Mae’r partneriaethau yma’n dod â chynrychiolwyr o’r sector sifil, y llywodraeth, ac awdurdodau lleol at ei gilydd i rannu data a chyflwyno prosiectau ar y cyd a fydd yn gwarchod ein hadnoddau dŵr ni, yn hyrwyddo arferion cynaliadwy, yn cysylltu pobl â’r amgylchedd naturiol ac yn helpu byd natur i adfer.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer yn cynnal Partneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol.

Rydyn ni’n gwybod bod gwyliau’r haf ar ben ond gyda’r holl dywydd gwych yma rydyn ni wedi bod yn ei fwynhau ym mis Medi, rydyn ni wir yn argymell eich bod chi’n ymuno ag YNGC wrth iddyn nhw ddathlu ein byd morol.
Os ydych chi’n newydd i ymweld â’r arfordir, i’ch helpu chi i roi cychwyn i’ch antur forol, maen nhw wedi llunio 60 o weithgareddau glan môr hwyliog a chyffrous mewn un pecyn defnyddiol i’w lawrlwytho i’r teulu cyfan blymio iddo!
Cyfle i ddarganfod ein rhywogaethau anhygoel ni o siarcod sy’n dodwy wyau, archwilio’r glannau drwy leoli a chofnodi ein dolydd morwellt sydd dan fygythiad mawr, a bod yn greadigol drwy greu celf ar thema forol!
Lawrlwythwch eich pecyn heddiw!
Lluniau diolch i: Terry Whittaker 2020VISION, Robin Rowe, Paul Steele – Bald Hiker