Mae prosiect Caru Aber Dyfrdwy yn dod i ben ym mis Mawrth 2025. Byddwn yn dathlu popeth sy’n ymwneud ag Aber Afon Dyfrdwy yng Nghanolfan Gymunedol Hoole ar yr 8fed o Fawrth. Bydd yn gyfle gwych i unrhyw un fynychu a darganfod beth rydyn ni wedi’i gyflawni dros y tair blynedd diwethaf, rhwydweithio â sefydliadau partner a dathlu cyflawniadau pawb. Dewch i gael parti gyda ni!
Aber Afon Dyfrdwy, ardal 14,000 hectar; cartref i fwy na 120,000 o adar rhydio ac adar dŵr yn ogystal ag amrywiaeth o gynefinoedd arfordirol a chymuned ymroddedig. Hon oedd ardal ein prosiect ni am y tair blynedd diwethaf, gan roi rhai penawdau mawr i ni eu cynnwys yn y cylchlythyr yma.
Mae’r ardal sy’n croesi dwy wlad wedi bod yn brosiect arloesol, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd ar draws ffiniau, gan ddefnyddio dull ymarferol o gyflawni effeithiau parhaol drwy gadwraeth gymunedol.
Mae prosiect Caru Aber Dyfrdwy wedi cael ei gyllido’n bennaf gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gyda chyfraniadau gan awdurdodau lleol, elusennau, cyrff statudol a chwmnïau ynni adnewyddadwy. Heb y cyllid, ni fyddem wedi gallu cyflawni’r hyn sydd gennym ni, na heb y 130 o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi mwy na 4,000 awr o’u hamser i waith cadwraeth ymarferol, arolygu, digwyddiadau, ymchwil ac ysgrifennu. Does dim posib diolch digon iddyn nhw.

Mae Caru Aber Dyfrdwy wedi ceisio adfer, creu a gwella cynefinoedd, gan ganiatáu mwy o ofod i fyd natur o amgylch yr aber. Rydyn ni wedi cymryd camau wedi’u targedu ar gyfer rhywogaethau pwysig fel Llyffant y Twyni a’r Gweirlöyn Llwyd ac wedi dod ag arbenigwyr a phartneriaid at ei gilydd ar draws y ddwy ochr i’r aber sy’n gweithio gyda’r rhywogaethau yma.
Mae cydweithredu nid yn unig wedi gwella nod cadwraeth hirdymor y cynefinoedd a’r rhywogaethau arbenigol ond hefyd wedi gwella’r rhwydwaith o wirfoddolwyr sy’n ymwneud â’r grwpiau hyn. Ni fyddai wedi bod yn bosibl gwneud y gwaith sydd wedi’i gwblhau, na’r gwelliant uniongyrchol o 15.2 hectar o gynefin aberol, heb gydweithrediad partneriaid a’r nifer fawr o wirfoddolwyr sy’n cymryd rhan. Mae rhai o’n huchafbwyntiau ni’n cynnwys y canlynol:

Gobeithio y bydd y cynefinoedd gwell hyn ar hyd yr aber o fudd i’r ardal a’r rhywogaethau sy’n galw’r lle yma’n gartref ymhell i’r dyfodol.
Mae pobl wedi gwirfoddoli eu hamser, wedi datblygu sgiliau ac wedi dod yn falch o arwyddocâd byd-eang Aber Afon Dyfrdwy. Mae’r prosiect wedi codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Aber Afon Dyfrdwy i fywyd gwyllt ac wedi galluogi ystod eang o bobl i gymryd camau i’w warchod mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dros gyfnod y prosiect, mae Caru Aber Dyfrdwy wedi ceisio creu lle diogel a chynhwysol sydd wedi cynnal digwyddiadau i fwy na 2,500 o bobl gyda’r cyfathrebu’n cyrraedd mwy na 160,000 o bobl.

Mae arwyddion gwybodaeth wedi cael eu gosod ar ddwy ochr yr aber sy’n egluro treftadaeth naturiol yr ardal gyfagos. Mae gwefan wedi’i datblygu hefyd lle gall pobl ddod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i Aber Afon Dyfrdwy mewn un lle, naill ai yn y Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae Caru Aber Dyfrdwy wedi darparu cyfleoedd ym mhob math o feysydd, nid dim ond cadwraeth ymarferol. Mae rhai o’r cyfleoedd wedi cynnwys recordio sain, teithiau cerdded tywys, digwyddiadau sy’n gyfeillgar i gŵn, casglu sbwriel, chwilio traethlinau, sgyrsiau a chyflwyniadau, a sesiynau lles ac ioga.
Maen nhw wedi galluogi cymunedau i greu eu hymdeimlad eu hunain o le a’u cysylltiad unigol eu hunain â’r aber. Dywedodd y rhai ddaeth i ymwneud â’r prosiect eu bod wedi elwa o gyfleoedd fel y canlynol:
Mae Aber Afon Dyfrdwy yn un o’r gwlybdiroedd arfordirol mwyaf yn y DU. Mae’n lle o harddwch, cysur, pwrpas a rhywfaint o dywydd amheus. Er bod y prosiect yn tynnu tua’i derfyn, mae wedi cael effaith barhaol yn sicr ar weithio a chydweithio trawsffiniol.
Mae Caru Aber Dyfrdwy wedi chwalu ffiniau. Mae’r prosiect wedi annog cydweithredu pellach gan bartneriaid sydd i gyd yn ymdrechu i gyflawni’r un peth yn yr ardaloedd lle maen nhw’n gweithio – nod cynaliadwy hirdymor o warchod amgylchedd yr aber a’r hamdden, y gwaith a’r dreftadaeth mae’n eu darparu i’n cymunedau lleol. Wedi’r cyfan, mae Aber Afon Dyfrdwy yn gweithredu fel un endid, gyda’r llanw a’r trai yn mynd ac yn dod bob dydd, heb wybod fyth bod ffin i lawr y canol.

Drwy gyfrwng y prosiect, gobeithio ein bod ni wedi rhoi llais mwy i rai grwpiau anhygoel yn yr ardal sy’n gwneud pethau da iawn, i dynnu sylw at yr hyn maen nhw’n ei wneud. Er bod y prosiect yn dod i ben, mae’r holl grwpiau rydyn ni wedi gweithio gyda nhw, o grwpiau gwirfoddoli awdurdodau lleol i Gyfeillion Grwpiau, i gyd yn weithredol o hyd. Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn ystod y misoedd nesaf i ddod i wybod am fwy o gyfleoedd.
Nid yw staff Caru Aber Dyfrdwy yn gallu diolch digon i bawb sydd wedi cymryd rhan am eich holl gyfraniad, boed fawr neu fach. Ni fyddai’r prosiect wedi cyflawni cymaint heb help a chefnogaeth y rhai ohonoch chi sydd wedi cymryd camau gweithredu ac wedi darllen y cylchlythyr yma bob mis.
Lluniau diolch i: Caru Aber Dyfrdwy, David Tipling / 2020VISION, Paul Steele / Bald Hiker.