
Mae Aber Afon Dyfrdwy yn un o’r aberoedd mwyaf ac wedi’i addasu leiaf yn y DU. Nid yw’n afon nac yn fôr a gall y milltiroedd o fwd noeth a chors ymddangos yn ddiffaith, ond eto mae aberoedd yn cael eu rhestru ochr yn ochr â fforestydd glaw trofannol a riffiau cwrel fel ecosystemau mwyaf cynhyrchiol y byd!
Yn anffodus, mae’r hyn sy’n gwneud Aber Afon Dyfrdwy yn arbennig mewn perygl. Mae gan Caru Aber Dyfrdwy genhadaeth i gysylltu cymunedau â’u treftadaeth arfordirol a rennir a helpu mwy ac ystod ehangach o bobl i ddysgu am eu bywyd gwyllt arfordirol anhygoel, ei werthfawrogi a gofalu amdano. Dros y tair blynedd nesaf, bydd y prosiect Partneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn cyflawni canlyniadau i bobl, cymunedau a bywyd gwyllt, ac rydyn ni eisiau i chi fod yn rhan ohono.

Yn gynharach eleni, bu tîm prosiect Caru Aber Dyfrdwy yn ddigon ffodus i ffilmio gyda Coast and Country ar ITV Wales ochr yn ochr â’r RSPB a’r Warden ar Draeth Presthaven. Dangosodd y Swyddog Cadwraeth a Gwirfoddoli, Charley, i’r Cyflwynydd Sean Fletcher sut i arolygu am rywogaeth brin, sef llyffant y twyni, a beth i chwilio amdano mewn pyllau twyni tywod. Ymwelodd Sean hefyd â’r môr-wenoliaid bach yn y Parlwr Du gyda’r RSPB, gan ddysgu am bwysigrwydd y boblogaeth a pha mor fregus ydi hi. Roedden ni wrth ein bodd yn cael y cyfle i esbonio i Sean am brosiect Caru Aber Dyfrdwy a’i ddull partneriaeth o weithredu i helpu bywyd gwyllt yr arfordir. Darlledwyd y rhaglen ar ddydd Gwener y 1af o Orffennaf.
Mae annog a chefnogi cymunedau i ddysgu am ein bywyd gwyllt arfordirol anhygoel ni’n rhywbeth rydyn ni’n angerddol amdano yn y prosiect! Rydyn ni wedi dod ag athrawon o Gymru a Lloegr at ei gilydd am y tro cyntaf fel rhan o Raglen Hyfforddi Athrawon Aber Afon Dyfrdwy.
Mae’r cyntaf o dri grŵp wedi dechrau gydag athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd yn ymgymryd â Dyfarniad John Muir gyda’u disgyblion, gan ganolbwyntio ar ddarganfod, archwilio a gwarchod Aber Afon Dyfrdwy. Mae ein hail grŵp ni o athrawon yn dechrau yn nes ymlaen eleni – cysylltwch i archebu eich lle!


Ar ôl sesiynau hyfforddi gwirfoddol llwyddiannus iawn, mae ein gwirfoddolwyr gwyddoniaeth y dinesydd ni wedi bod yn brysur yn arolygu ac yn cofnodi bywyd gwyllt ar hyd yr aber. Mae ein tîm ni wedi bod yn canolbwyntio ar lyffantod y twyni dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gan gyfrif llinynnau grifft a phenbyliaid yn ofalus, yn ogystal â thrwsio’r ffensys o amgylch y pyllau a’u llenwi nhw yn ystod cyfnodau sych!
Mae ein gwirfoddolwyr ni’n hanfodol i’n gwaith cadwraeth, cysylltwch os hoffech chi ymuno â’n tîm ni o wirfoddolwyr. Does dim angen unrhyw brofiad – byddwn yn eich addysgu chi am bopeth y mae arnoch angen ei wybod.
Mae llawer o bobl yn gwerthfawrogi synau byd natur o’r newydd, yn enwedig ar ôl i’r pandemig ein cadw ni’n lleol a’n cael ni i gerdded o amgylch ein llecynnau gwyrdd a glas cyfagos. Rydyn ni eisiau cofnodi’r synau yma ac rydyn ni’n annog trigolion lleol i’n helpu ni! Gyda chefnogaeth a hyfforddiant gan staff ym Mhrifysgol Manceinion, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Fetropolitan Manceinion a Phrifysgol Lerpwl, rydyn ni’n hyfforddi grŵp o wirfoddolwyr i archwilio Aber Afon Dyfrdwy a chofnodi’r hyn maen nhw’n ei glywed ar yr un pryd.
Mae gennym ni hefyd grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi cynnig eu sgiliau i’n helpu ni i gofnodi golygfeydd yr aber gan ddefnyddio ffotograffiaeth. Rydyn ni’n gobeithio rhoi’r ddau gyfrwng yma at ei gilydd i greu adnoddau digidol y gallwn ni eu defnyddio i arddangos harddwch ac amrywiaeth Aber Afon Dyfrdwy i amrywiaeth o gynulleidfaoedd yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.
Os hoffech chi gyfrannu at olygfeydd Aber Afon Dyfrdwy drwy gyflwyno ffotograffau, cofiwch gysylltu i gael gwybod mwy.

Lluniau diolch i: Robin Rowe, Dan Trotman, Sarah Bennett, Ryan Woods, David Costello, Paul Steele.