Awst 2022

Thurstanton beach

TRAETH THURSTASTON

Wedi’i amgylchynu gan Barc Gwledig Penrhyn Cilgwri, mae Traeth Thurstaston yn dirnod poblogaidd ar arfordir Penrhyn Cilgwri. Mae clogwyni coch yn llenwi’r safle, sy’n datgelu gwaddodion a ddyddodwyd pan ffurfiwyd Aber Afon Dyfrdwy yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf. Wrth i’r rhewlif gerfio ei ffordd drwy’r tir, dyddododd haenau o waddod, o’r enw clog-glai, yn cynnwys ystod eang o greigiau a gasglwyd ar hyd y ffordd. Gallwch weld yr haenau yma drosoch chi’ch hun ond peidiwch â mynd yn rhy agos gan fod y clogwyni’n ansefydlog. Yn ddiweddar, fe wnaethon ni ymuno â Jim Marshall o Brosiect Daeareg a Thirwedd Penrhyn Cilgwri am dro ar hyd Traeth Thurstaston i ddysgu mwy am hanes daearegol Aber Afon Dyfrdwy.

CWRDD Â’R GWEIRLÖYN LLWYD

Y gweirlöyn llwyd (Hipparchia semele) yw ein glöyn byw brown mwyaf ni, ac mae’n cael ei adnabod am ei liwiau cryptig anhygoel. Mae’n torheulo ar ddarnau o dir noeth gyda’i adenydd ar gau ac wedi’u gogwyddo tuag at yr haul. Pan mae’r gweirlöyn llwyd ar y ddaear mae fel rheol yn gollwng ei adain flaen y tu ôl i’w adain ôl, ac yn diflannu i gefndir y tywod, yn anweledig bron. Mae ei guddliw mor dda fel nad yw gwylio un yn glanio yn gwarantu y byddwch chi’n dod o hyd iddo eto! Mae posib dod o hyd i’r gweirlöyn llwyd yn torheulo ar dwyni tywod ym mlaen Aber Afon Dyfrdwy, yn Nhalacre a Red Rocks, ac yn casglu neithdar ar gelyn y môr. Mae’r oedolion yn hedfan o fis Gorffennaf i fis Medi a’r ffordd orau o weld un yw drwy gerdded ar hyd llwybrau sydd wedi treulio’n dda a tharfu arno (ar ddamwain)! Yn anffodus, mae’r gweirlöyn llwyd yn rhywogaeth sy’n wynebu dirywiad ac sydd wedi’i hailddosbarthu’n ddiweddar fel rhywogaeth mewn perygl yn y DU gan Butterfly Conservation. Rydyn ni’n gweithio gyda Dave Costello o Butterfly Conservation i fonitro a gwarchod y poblogaethau ar hyd yr aber.

Mwy o wybodaeth 

AROLYGON Y GWEIRLÖYN LLWYD CARU ABER DYFRDWY

Am y ddau fis diwethaf, mae ein gwirfoddolwyr gwyddoniaeth y dinesydd ni wedi bod yn ymwneud ag arolygu’r gweirlöyn llwyd ar hyd arfordir yr aber. Mae eu gwybodaeth a’u sgiliau adnabod glöynnod byw wedi datblygu’n fawr yn ystod y cyfnod yma, gyda help y pedair sesiwn hyfforddi a ddarparwyd gennym ni mewn partneriaeth â Dave Costello o Butterfly Conservation a’i dîm.

Diolch i’n gwirfoddolwyr ni rydyn ni’n dysgu mwy am y gweirlöyn llwyd. Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth yma i helpu fel sail i benderfyniadau rheoli tir, a diogelu dyfodol y glöyn byw cyfrinachol yma ar yr aber gobeithio.

@ourdeeestuary a’r #WythnosForolGenedlaethol

Yn ddiweddar, dathlodd Caru Aber Dyfrdwy yr Wythnos Forol Genedlaethol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae’r dathliad yma o bopeth morol yn fenter gan yr Ymddiriedolaethau Natur ac mae’n cael ei dathlu dros 15 diwrnod bob blwyddyn yn ystod mis Gorffennaf. Mae’r ‘wythnos’ yn 15 diwrnod o hyd fel bod pawb ledled y DU yn gallu dathlu’r Wythnos Forol Genedlaethol pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny oherwydd llanw amrywiol. Eleni, fe wnaethon ni ddathlu archarwyr ein cefnforoedd ni, sef y creaduriaid sy’n byw yn ein moroedd ni ac sydd â galluoedd anhygoel. Os gwnaethoch chi golli unrhyw un o’r negeseuon, fe allwch chi ddod o hyd iddyn nhw ar ein tudalen Facebook, ein cyfrif Twitter a’n cyfrif Instagram.

Lluniau diolch i: Emily Lake, Charley Dutton.

SHARE ON
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.