
Mae cymaint i’w archwilio ar ochr Cymru i Aber Afon Dyfrdwy, a gallwch weld y cyfan gan ddefnyddio Llwybr Arfordir Cymru. Rhaid gweld Castell y Fflint, sy’n cynnig cipolwg diddorol ar hanes yr ardal yn dyddio’n ôl i 1277.
Mae Maes-glas yn gyrchfan i bobl sy’n hoff o hanes a byd natur, gyda Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas, Doc Maes-glas a golygfeydd allan i’r aber, ac wedyn ychydig yn ôl i mewn i’r tir am Abaty Dinas Basing.
Gallwch stopio mewn sawl llecyn hardd ar hyd y llwybr, fel Bagillt, a dal bws yn ôl i’r Fflint, sy’n gwneud y darn yma o lwybr yr arfordir yn addas ar gyfer gwahanol lefelau o ffitrwydd a gallu. Ymhellach i fyny’r arfordir mae mwy o berlau fel Twyni Talacre a’r Parlwr Du gyda’i oleudy trawiadol a’i adar diddorol.
Nawr yw’r amser perffaith i archwilio’r ardal yma i weld y golygfeydd o’r aber ac i brofi’r mewnlifiad o adar rhydio ac adar dŵr wrth iddyn nhw ddychwelyd i’w tiroedd bwydo dros y gaeaf ar yr aber.

PMae Parkgate yn adnabyddus ymhlith adarwyr lleol fel un o’r llecynnau gorau ar yr aber i weld adar ysglyfaethus. Mae’r ehangder helaeth o forfa heli agored yn dir hela perffaith ar gyfer amrywiaeth o adar ysglyfaethus. Yn y gaeaf, mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys bodaod tinwyn, bodaod y gwerni, tylluanod clustiog, tylluanod gwynion, cudyllod bach a chudyllod coch. Mae llanw uchel yn Parkgate yn arwain at olygfa drawiadol. Wrth i ddŵr lifo ar y morfa heli mae’n gorfodi bywyd gwyllt i’r lan, ac yn denu adar ysglyfaethus sy’n chwilio am bryd o fwyd hawdd. Cadwch lygad am lanw dros 10m ac ewch draw i faes parcio’r hen faddonau am yr olygfa orau.
Mae’r RSPB yn dod â Raptor Watch yn ôl i Parkgate ym mis Tachwedd eleni, gyda thywyswyr cyfeillgar wrth law i helpu. Mae’n amser gwych i hogi eich sgiliau adnabod adar!
Rydyn ni wir yn mwynhau cydweithio â’r wardeiniaid o Gynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych ar dasgau cadwraeth ymarferol. Fe fydd yr hydref / gaeaf yn gyfnod allweddol ar gyfer y gwaith yma wrth i ni baratoi pyllau llyffantod y twyni ar gyfer tymor magu’r gwanwyn nesaf, yn ogystal â’r gwaith parhaus o gael gwared â rhywogaethau o blanhigion ymledol o gynefinoedd bywyd gwyllt allweddol.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn rheoli Gwarchodfa Natur hardd Big Pool Wood ar yr aber ac mae hefyd yn cynnal amrywiaeth wych o ddigwyddiadau sy’n werth edrych arnyn nhw!
Er bod pencadlys RSPB Aber Afon Dyfrdwy yn Burton Mere, mae eu gwaith yn y Parlwr Du yng Nghymru, yn enwedig gyda’r boblogaeth o Fôr-wenoliaid Bach sydd yno, yn nodedig. Fe gynhyrchodd 39 o barau o Fôr-wenoliaid Bach, cyfanswm sy’n torri pob record, 81 o wyau mewn 34 o nythod llwyddiannus ac fe lwyddodd 69 o gywion i hedfan o’r nyth.


Ar yr 17eg Medi, cynhaliwyd ein Gweithdy Dyfrffyrdd cyntaf gyda Pete Attwood o Groundwork CLM. Fe wnaethon ni ddysgu sut i gynnal arolwg cerdded drwodd, gan chwilio am arllwysfeydd a ffynonellau llygredd posibl eraill. Fe wnaethon ni gasglu samplau dŵr a phrofi ansawdd dŵr, gan gynnal profion ar ocsigen tawdd, nitreidiau, ffosffadau a mwy!
Cadwch lygad am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth y dinesydd ar ein gwefan ni.
Lluniau diolch i: Robin Rowe, Charley Dutton, Paul Steele