
Ydych chi wedi clywed am Ardaloedd Morol Hynod Warchodedig (HPMAs)? Mae treial newydd yn mynd i gael ei gynnal o’r safleoedd arbennig yma mewn 5 lleoliad ledled y DU.
Mae HPMAs yn creu hafan ddiogel ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd morol, sydd, unwaith y byddant wedi’u sefydlu, o fudd i’r amgylchedd morol ehangach. Bydd y pysgod a’r bywyd morol arall sy’n cael eu gwarchod o fewn HPMAs yn symud yn raddol i’r ardal ehangach, gan gynyddu bioamrywiaeth a gwella cynefinoedd fel coedwigoedd gwymon, gwelyau morwellt a gwastadeddau llaid, sy’n storfeydd carbon gwych.
Yr HPMA arfaethedig agosaf at Aber Afon Dyfrdwy yw Bae Allonby ar arfordir Môr Iwerddon.
Mae dau o’n partneriaid ni, Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caer ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn rhan o grŵp o Ymddiriedolaethau Natur, Moroedd Byw y Gogledd Orllewin, sy’n rhannu arfordir â Môr Iwerddon. Ein nod ni yw gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth i wella’r cynefin arfordirol a morol rydyn ni i gyd yn ei rannu.
I gael gwybod mwy a chefnogi ymgyrch yr Ymddiriedolaethau Natur dros HPMAs, ewch i’w gwefan.


Mae’n hydref ac yn amser i ni groesawu adar rhydio yn ôl i’r aber! Dros yr hydref a’r gaeaf bydd poblogaeth yr adar rhydio ar Aber Afon Dyfrdwy yn cyrraedd mwy na 130,000 o adar unigol!
Un o’r adar rhydio mwyaf eiconig ar yr aber yw’r bioden fôr (Haematopus ostralegus). Mae’n cael ei ddenu i’r aber mewn niferoedd mawr oherwydd bod digonedd o’i hoff fwyd yno, sef cocos (Cerastoderma edule).
Mae Aber Afon Dyfrdwy yn adnabyddus am ei welyau cocos ac mae’n safle casglu cocos masnachol gyda 54 o ddeiliaid trwydded sy’n cynaeafu cwota dyddiol rhwng y 1af o Orffennaf a’r 31ain o Ragfyr. Mae casglu cocos yn weithgaredd sy’n cael ei fonitro’n fanwl i wneud yn siŵr bod digon ar ôl i’r adar.
Mae mis Medi yn ddechrau ar hydref / gaeaf prysur i Wardeiniaid Gwirfoddol Aber Afon Dyfrdwy (DEVW). Mae’r grŵp ymroddedig yma o wirfoddolwyr wedi’u lleoli yn West Kirby rhwng mis Medi a mis Mawrth, yn ystod pob llanw uchel yng ngolau dydd sydd dros 8.6m.
Mae’r wardeiniaid yn arsylwi, yn cofnodi ac yn gwarchod y miloedd o adar rhydio sy’n bwydo ar yr aber. Ar lanw uchel, mae adar rhydio’n clwydo ar hyd y lan, sy’n gallu arwain at bobl a chŵn yn tarfu arnyn nhw. Mae’r DEVW yn helpu i addysgu ymwelwyr fel bod pobl ac adar rhydio’n gallu rhannu ein harfordir ni.
Os hoffech chi ymuno â’r DEVW, cysylltwch â mattthomas@wirral.gov.uk. Does dim angen i chi fod yn arbenigwr adar i ymuno, byddwn yn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod i chi!
Ar y 10fed o Orffennaf, fe wnaethon ni gynnal y drydedd o’n sesiynau recordio sain gwirfoddol, a’r tro yma fe aethon ni i Warchodfa Natur Red Rocks ar Benrhyn Cilgwri i arbrofi gyda hydroffonau. Mae’r rhain yn fath arbennig o feicroffon ac mae posib eu defnyddio yn y dŵr ac o’i gwmpas.
Roedd yn llawer o hwyl ac fe wnaethon ni ddysgu llawer o sgiliau newydd. Bydd y grŵp yn cyfarfod eto ym mis Medi i rannu’r hyn maen nhw wedi’i recordio yn ystod gwyliau’r haf.

Lluniau diolch i: Emily Lake, Charley Dutton